* A Distributed Proofreaders Canada eBook *

This eBook is made available at no cost and with very few restrictions. These restrictions apply only if (1) you make a change in the eBook (other than alteration for different display devices), or (2) you are making commercial use of the eBook. If either of these conditions applies, please contact a https://www.fadedpage.com administrator before proceeding. Thousands more FREE eBooks are available at https://www.fadedpage.com.

This work is in the Canadian public domain, but may be under copyright in some countries. If you live outside Canada, check your country's copyright laws. IF THE BOOK IS UNDER COPYRIGHT IN YOUR COUNTRY, DO NOT DOWNLOAD OR REDISTRIBUTE THIS FILE.

Title: Dros Y Gamfa, Stori I Blant

Date of first publication: 1926

Author: Fanny Winifred Edwards (1876-1959)

Date first posted: Feb. 9, 2019

Date last updated: Feb. 9, 2019

Faded Page eBook #20190217

This eBook was produced by: Mardi Desjardins & the online Distributed Proofreaders Canada team at https://www.pgdpcanada.net



CYFRES CYMRU’R PLANT. LLYFR II

 

 

DROS Y GAMFA

STORI I BLANT

 

 

GAN

FANNY EDWARDS

 

 

WRECSAM

HUGHES A’I FAB, CYHOEDDWYR

 

1926


CYNNWYS

TUD.
IColli’r Ffordd7
IIColli’r Cadwyni10
IIIPenbleth Hywel13
IVY Chwibanogl17
VTylwyth y Coed20
VIY Tylwyth Chwim23
VIIYr Afal26
VIIIY Wisg Ryfedd29
IXLlys y Tylwyth Chwim32
XColli’r Rhaffau35
XITylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a’r Tylwyth Teg38
XIIFfoi! Ffoi!! I ba le?42
XIIICartef Santa Clôs51
Geirfa57

“Y FI YDYW TYLWYTH Y COED.”

I. Colli’r Ffordd

Yr oedd Hywel, am y tro cyntaf erioed, wedi cael myned ei hunan i edrych am ei nain. Hyd yn hyn, byddai y daith bleserus yn cael ei gwneud yng nghwmni ei dad neu ei fam, am na ystyrrid Hywel yn ddigon mawr i fyned ei hunan y pellter o ddwy filltir o’r pentref bychan, lle ’roedd ei gartref, i dŷ ei nain, oedd mewn llecyn unig yng nghanol y wlad. Ac er y byddai “mynd am dro i dŷ nain” bob amser yn bleser digyffelyb, yn enwedig pan y caniatai gŵyl i’w dad a’i fam ac yntau gael mynd gyda’i gilydd, eto, yr oedd yna ryw swyn newydd mewn cael mynd ei hunan, ac ni fu erioed mewn cymaint brys am gael cychwyn. Prin y cymerai hamdden i fwyta ei frecwast, ac i wrando ar ei fam yn ei rybuddio i gychwyn yn ôl yn gynnar,—“Cofia di,” meddai, “fod yna dros ddwy filltir o ffordd i dŷ nain. Os gwnei di beidio ymdroi heddyw, mi gei fynd yno eto’n reit fuan.” Ond wedi cyrraedd tŷ ei nain, yr oedd y croeso cynnes, a’r cyfleusterau i chwarae mor amrywiol a difyr, megis dal pysgod bach yn y ffrwd redai heibio talcen y berllan, gwneud mîn ar gerrig gleision ar y maen llifo, dringo y coed afalau, chwilio y gwyrychoedd am nythod, cario dŵr yn y piser bach o’r pistyll a’i dywallt i bwll oedd yng ngwaelod yr ardd, a llu o bethau eraill nad oedd yn bosibl cael gwneud yr un ohonynt gartref, fel nad rhyfedd i Hywel anghofio popeth am gloc ac am amser, nes i’w nain ei atgofio o’u bodolaeth, a’i gymell i gychwyn yn ôl. “Gwell i ti fynd,” meddai, “rhag i dy fam fynd yn anesmwyth, ac i dy dad fod rhyw lawer iawn yn y tŷ o dy flaen,” ac ebai Hywel,—“fedra i ddim cyrraedd o flaen tada, a mynd i’w gyfarfod fel arfer, nain?”

“Na fedri heno, dos adre ar dy union.”

Ac ymaith a Hywel yn ddioed, a’i nain yn galw ar ei ol,—“Cofia frysio yma eto.”

Wedi cerdded rhyw hanner milltir, arweiniai y ffordd heibio cwr coedwig fawr, ac yn y fan honno daeth i gof Hywel fel yr oedd wedi clywed ei dad yn dweyd fod llwybr cul yn rhedeg drwy y goedwig, oedd yn arwain i’r gamfa oedd o fewn ychydig lathenni i’w gartref, ac yn arbed cerdded gryn filltir o ffordd. Ac meddai Hywel wrtho ei hunan,—

“Mi af drosodd i’r goedwig i chwilio am y llwybr, ac yna mi fyddaf gartref yn ddigon buan i fynd i gyfarfod tada.”

Ac felly y gwnaeth, gan ddringo y wal yn fedrus, a neidio oddi arni yn hwylus ar y llawr gwyrdd, esmwyth, yr ochr arall iddi. Ond cyn cerdded eithaf hanner dwsin o lathenni yn y goedwig, gwelodd fod y llwybrau bron mor liosog a’r coed, ac yn arwain i bob cyfeiriad, a bu am foment yn petruso a elai ymlaen ai peidio, ond gan ei fod mor awyddus i gyrraedd ei gartref mewn pryd, penderfynodd barhau i chwilio am lwybr y gamfa, a daliodd i gerdded a cherdded nes cael ei hunan mewn llecyn a amgylchynwyd â gwrychoedd, ac nis gwyddai yn y byd sut i fynd oddi yno, yn ol nac ymlaen. Yn y fan honno y mae’n eistedd i orffwys ychydig ac i edrych ar y coed mawr oedd yn tyfu o gwmpas y gwrychoedd, ac fel yr oedd yn edrych, y mae’n sylwi fod cangen un o’r coed yn dechre ysgwyd. Nid ysgwyd fel y bydd cangen pan yn cael ei siglo gan yr awel, ond edrychai fel pe’n cael ei symud gan ryw law. Ar unwaith, ymwthiodd Hywel drwy y gwrych i’r ochr arall. Yn y fan honno gwelai fachgen, ychydig yn fwy nag ef, yn siglo ei hunan ôl a blaen wrth y gangen. Tra yr oedd syndod a llawenydd yng ngolwg Hywel wrth ei weled, edrychai y bachgen yn hollol ddidaro, ac fel pe bai cyfarfod Hywel yn y lle hwnnw yn un o’r pethau mwyaf naturiol, a gofynnodd, gan ddisgyn i lawr oddiar y gangen,—

“Wyddoch chwi lle mae coed helyg yn tyfu? ’Rydw i ’n crwydro yn y goedwig yma ers oriau, yn chwilio am wiail helyg i nhad wneud basgedi, a fedra i yn ’y myw ddod o hyd i’r coed.”

“Na wn, wir. Mae’r lle’n ddiarth iawn i mi. Wyddoch chwi p’run ydyw’r llwybr sy’n arwain at y gamfa sydd yn y ffordd bost? ’Rwyf ers meityn yn chwilio am dano.”

“Mae arnaf ofn y bydd raid i chwi chwilio’n hir eto. Cyn y dowch i’r llwybr sy’n arwain iddo, rhaid i chwi droi ar y chwith ddwy waith ac i’r dde deirgwaith.”

“Ddowch chwi i ddangos y ffordd i mi? Mae’n tŷ ni wrth ymyl y gamfa, ac mae mam yn siwr o dalu’n dda i chwi.”

“Buasai yn dda gennyf gael dod, ond mae’n rhaid i mi fynd i chwilio am helyg i nhad. Mae ganddo ddwy fasged i’w gorffen erbyn nos yfory, ac nid oedd ganddo ond rhyw ddyrnaid o wïail pan oeddwn yn cychwyn. Ond croeso i chwi ddod hefo mi. Beth yw eich enw? Caradog yw fy enw i.”

Fel yr oedd Hywel yn hysbysu iddo ei enw, y mae rhyw sŵn ar y dde iddynt yn peri i’r ddau droi i’r cyfeiriad hwnnw, a gwelent yn cerdded yn gyflym tuag atynt ddyn bychan, mor fychan yn wir, fel mewn ambell i le yr oedd y gwellt uched a’i ysgwydd. Os nad oedd Caradog yn edrych yn syn pan welodd Hywel, yr oedd gymaint o syndod yn wyneb y ddau a’i gilydd pan yn edrych ar y dyn bychan yn nesu atynt. Ac nid rhyfedd. Yr oedd ei faint a’i wisg mor wahanol i ddim welsant erioed o’r blaen. Yr oedd ei wisg fel pe wedi tyfu amdano, nid oedd fymryn rhy fawr na mymryn rhy fach, ac nid oedd ond ei ddwylaw a’i wyneb nad oedd wedi ei guddio ganddi. Yr oedd o’r un lliw a gwellt a dail y coed, a phan yn sefyll yn llonydd, gellid tybio mai rhyw fath o welltyn neu goeden fychan ydoedd. Pan welodd y bechgyn ef, aethant i sefyll yn dynn at ei gilydd, a hawdd canfod ar eu hwynebau eu bod yn teimlo yn grynedig ac ofnus. Ond nid oedd iâs o ofn i’w weled yn wyneb y dyn bychan gwyrdd. Edrychai mor dalog a phe bai yn gawr. A chyn dweyd yr un gair wrth y bechgyn, na phrin edrych arnynt, aeth i fyny at y goeden, lle’r bu Caradog yn hongian, ac edrychodd hi i fyny ac i lawr yn ofalus, gan deimlo amryw o’r dail oedd yn ei gyrraedd a’u harogli. Ac meddai Caradog yn ddistaw yng nghlust Hywel,—

“Peidiwch a deyd mod i wedi cael singlan ar y goeden yna.”

“Wna i ddim. Gobeithio na fedr o ddim ffeindio.”

Ar hynny y mae y dyn bychan yn neidio i’r gangen y bu Caradog yn siglo arni, ac yn myned ar ei hyd gerfydd ei ddwylaw i’w bôn, ac wedi boddloni ei hunan, mae’n debig nad oedd ronyn gwaeth, y mae’n neidio i lawr ac yn dod i ymyl y bechgyn, ac yn gofyn mewn llais clir, fel cloch yn tincian,—

“Beth ydyw eich neges? Y mae gennyf hawl i’w gwybod. Y fi ydyw Tylwyth y Coed.”

II. Colli’r Cadwyni

Yn ddioed fel pe’n falch o’r cyfle i ddweyd ei helynt, y mae Caradog yn dechreu adrodd yn fanwl wrtho ei neges yn y coed. Gynted y tewodd, dywed Hywel ei helynt yntau, a’r ddau fel ei gilydd yn erfyn am gynorthwy i gael eu dymuniad gan Dylwyth y Coed. Caradog yn dymuno cael ei arwain yn ddioed at y coed helyg, a Hywel yr un mor daer am gael mynd dros y gamfa.

Bu’r Tylwyth am ysbaid heb eu hateb gan sefyll o’u blaen, ac edrych i lawr fel pe mewn dwfn fyfyrdod. Yna cododd ei ben yn sydyn, ac meddai,—

“Mae’n amhosibl i mi eich cynorthwyo fy hunan. ’Rwyf ar fy ffordd i gyfarfod fy mrawd. Mae’n aros am danaf mewn coeden onen ymhell oddi yma. Mae ganddo gyfrinach bwysig i’w hysbysu i mi, ac y mae wedi fy rhybuddio i fynd ato ar frys. Ond ar fy nhaith ato byddaf yn siwr o gyfarfod rhai o’r Tylwyth Teg, a gofynnaf iddynt ddod i’ch helpu. Arhoswch yn y fan hyn, a pheidiwch symud oddi yma. Ond y mae’n rhaid i chwi gysgu,—ni ddaw y Tylwyth Teg atoch os byddwch yn effro.”

“Os byddwn ni yn cysgu,” ebai Caradog, “sut y caiff y Tylwyth Teg wybod beth sydd arnom eisiau?”

“Gwnaf fi eu hysbysu o hynny. Dwedaf wrthynt fod un bachgen eisiau ei ddwyn at y coed helyg, a’r llall eisiau mynd dros y gamfa.”

Ac ebai Hywel,—

“Ie, ond pwy fydd yma i ddweyd wrth y Tylwyth Teg mai Caradog sydd yn chwilio am wiail a finnau yn chwilio am y gamfa?”

“Gofalaf am hynny hefyd,” ebai Tylwyth y Coed. A thynnodd o’i fynwes ddwy gadwen hir o rawn cochion, ac meddai,—

“Plygwch eich pennau.”

Ac wedi iddynt ufuddhau, rhoddodd un gadwen am wddf Hywel, a’r gadwen arall am wddf Caradog, gan ddweyd wrth Hywel,—

“Dyma i chwi gadwen o rawn crwn.”

Ac wrth Caradog,—

“Dyma i chwithau gadwen o rawn hir-grwn. Yna bydd y Tylwyth Teg yn gwybod fod y bachgen sydd yn gwisgo y grawn crwn eisiau mynd dros y gamfa, a’r bachgen sydd yn gwisgo y grawn hir-grwn yn dymuno cael mynd at y coed helyg.”

Diolchodd y bachgen iddo am y ddwy gadwen ac am ei barod-rwydd i’w helpu. Ac ebai yntau gan ostwng ei lais,—

“Mae’n dda gen i gael eich helpu. Ond wedi i mi fynd, cymerwch ofal na wnewch chwi ddeyd yr un gair o’ch hanes wrth y Tylwyth Chwim, os daw un neu ragor ohonynt atoch cyn i chwi gysgu a chymell eich helpu. Peidiwch a gwrando arnynt na’u dilyn, dyma fi yn eich rhybuddio mewn pryd. Os gwnewch, maent yn siwr o’ch camarwain, dyna eu gwaith.”

“Y Tylwyth Chwim,” ebai y bechgyn yn syn gyda’i gilydd, “pwy yw y rheiny?”

“Tylwyth sy’n byw ar derfyn y goedwig yma, a phob amser yn chwilio am gyfle i aflonyddu ar y Tylwyth Teg a fy nhylwyth innau. Maent o’r un maint a mi, ac y mae eu gwisg yn debig ond fod eu lliw yn goch. Os gwelwch hwy yn nesu cauwch eich llygaid a chymerwch arnoch eich bod yn cysgu yn drwm. Peidiwch a gadael i gywreinrwydd eich cadw’n effro a meddwl y gallwch eu troi draw pan y mynoch. Maent yn gyfrwys iawn ac anaml y gwelwch lai na phedwar ohonynt gyda’i gilydd. Os gwelwch un wrtho ei hunan, gallwch fod yn sicr ei fod wedi troseddu ac yn cael ei gosbi. Dyna eu cosb am drosedd bob amser. Rhaid i’r sawl fydd wedi troseddu grwydro wrtho ei hunan hyd nes y gall gyflawni rhyw weithred fydd yn ennill edmygedd a chymeradwyaeth y gweddill o’r Tylwyth. Ond mae’n rhaid i mi fynd, bydd fy mrawd yn blino aros am danaf.”

A ffwrdd ag ef gyda’r fath gyflymder nes yr oedd yn llwyr o’r golwg cyn i’r bechgyn gael hamdden i ddweyd gymaint ag un gair ymhellach wrtho.

“Wel, dyna greadur bach rhyfedd,” ebai Caradog, “y rhyfedda welais i erioed.”

“A finna hefyd,” ebai Hywel. “Onid oedd ganddo lais peraidd?”

“Oedd, a gwisg brydferth. Mae’n dda gen i mod i wedi methu dod o hyd i’r coed helyg, er mwyn cael ei gyfarfod.”

“Mae’n dda gen inna mod i wedi colli y ffordd. Ond pwy fasa’n meddwl fod gan greadur bach fel yna elynion? Gobeithio na welwn ni mo’r Tylwyth Chwim.”

“Ie’n wir. Mae’n rhaid eu bod yn dylwyth cas iawn i boeni y Tylwyth Teg.”

“Onid yw yn resyn fod yn rhaid i ni gysgu ac na chawn weld y Tylwyth Teg?”

“Ydyw, ond gan na ddeuant atom yn effro, gwell i ni wneud hynny heb ymdroi, rhag ofn eu bod yn nes atom nag ydym yn feddwl. ’Rwyf fi am orwedd wrth fôn y goeden yma.”

“Gwnaf finnau hefyd; bydd y mwsogl sydd yn y fan hyn yn esmwyth dan ein pen.”

Gan ei bod yn ddiwrnod tesog, a’r bechgyn yn flinedig, ni fu raid i’r un o’r ddau geisio denu cwsg, yr oedd fel pe’n disgwyl am danynt yn y mwsogl, ac yn fuan iawn yr oeddynt yn cysgu yn drwm. Gyda hynny, dyna ddail y gwrych oedd tu ol i’r goeden yn dechreu symud, a dacw un o’r Tylwyth Chwim yn ymwthio drwyddynt, ac yn prysuro i sefyll uwchben y bechgyn, mor gyflym ei ysgogiadau a wiwer, ac wedi clustfeinio a chael sicrwydd eu bod yn cysgu, meddai, a’i lais yn llawn o hunan-foddhad,—

“Dyma i mi gyfle ardderchog i ennill ffafr fy nhylwyth. ’Rwyf wedi blino yn crwydro wrthyf fy hunan, ac yn wir yr oedd y gosb braidd yn drom a meddwl na wnes i ond colli un cyfle i roi drain yng nghylch y Tylwyth Teg. Ond beth waeth am hynny yn awr, mae y gosb ar ben. Ychydig feddyliai Tylwyth y Coed fy mod yn gwrando ar ei stori i gyd tu ol i’r gwrych yna. Druan ohono, cyn y daw ei gyfeillion y Tylwyth Teg yma, byddaf fi wedi newid y ddwy gadwen, a chaiff y bachgen sydd eisiau mynd dros y gamfa ei gludo at y coed helyg, a’r un sydd eisiau dod o hyd i’r coed helyg ei gario dros y gamfa. Pan glyw fy nhylwyth am fy ngwaith, byddant wrth eu bodd. Ha! Ha!! Ha!!! Ha!!!!”

Yna plygodd i lawr a chyda bysedd mor ysgafn a phlu, cwyd ben Hywel, a thynn y gadwen oddi am ei wddf, ac wedi ei osod i lawr yn esmwyth ar y mwsogl, yn gwneud yr un peth gyda Caradog. Yna, gyda’r un gofal fe rydd gadwen Caradog i Hywel, a chadwen Hywel i Garadog. Wedi hyn, tynnodd flwch bychan o’i fynwes, ac wedi iddo iro traed Hywel gyda’r hyn oedd ynddo, ymwthiodd yn ol drwy y gwrych.

III. Penbleth Hywel

Nid aeth y Tylwyth Chwim foment yn rhy fuan o’r golwg; nid oedd ond prin wedi diflannu nad oedd y Tylwyth Teg yn cyrraedd o gyfeiriad arall. Fel y sylwodd Hywell yr oedd yn resyn na chawsant gymaint ag un olwg arnynt, oblegid yr oeddynt tuhwnt i ddisgrifiad o brydferth, yn eu mentyll arian, a chwifiwyd yn yr awel ysgafn, nes dangos eu gwisgoedd gwynion, oeddynt fel plygion lili cyn gorffen agor am dani. Am eu traed bychain yr oedd esgidiau arian, ac am eu pen yr oedd ganddynt sidan esmwyth o liwiau’r enfys wedi ei blethu yn gylch ac ambell i wlithyn yn disgleirio arno. Yr oedd eu llais yn llawn miwsig, a hawdd fuasai credu fod pob gair ddywedent yn suo y bechgyn i felysach cwsg. Ac ebai un ohonynt gan wenu ar Hywel a Charadog,—

“Dyma gyfle eto i wneud cymwynas. Onid ydych yn llawen?”

Ac ebai’r gweddill gyda’i gilydd,—

“Yr ydym wrth ein bodd.”

“Rhaid i ni ddiolch i Dylwyth y Coed am ein cyfarwyddo atynt.”

“Rhaid ar unwaith.”

“Cymerwch chwi eich pump ofal yr un sydd yn mynd dros y gamfa; awn ninnau a’r llall at y coed helyg.” Ac felly y bu. Yn sicr ddigon, yr oedd y Tylwyth Chwim wedi llwyddo i dwyllo y Tylwyth Teg i’r eithaf, a’u harwain i ymddwyn at y bechgyn yn hollol groes i’r hyn fwriadent. Cafodd Caradog ei gario dros y gamfa, a phan ddeffrodd Hywel, yr oedd ynghanol coed helyg. A gwaith pur anodd iddo oedd perswadio ei hunan nad breuddwydio yr oedd. A dyna lle ’roedd yn rhwbio ei lygaid ac yn craffu i bob cyfeiriad, a phob edrychiad yn sicrhau ei fod ynghanol coed helyg, ac nad oedd hanes o gamfa yn unman! Ac meddai,—

“Wel, dyma beth rhyfedd. Dyma fi ynghanol coed helyg, ond lle mae Caradog? Ai tybed ei fod ef wedi ei gario dros y gamfa? Tybed fod y Tylwyth Teg, neu Dylwyth y Coed, wedi chware tric â ni? Beth bynnag am hynny, y peth goreu i mi ydyw mynd oddiyma gynted y gallaf. Ond cyn mynd mi dorraf faich o’r gwiail yma i Garadog; feallai y deuaf ar ei draws yn rhywle, mae gen i ddigon o linyn yn fy mhoced i’w cylymu.”

“Y TYLWYTH TEG YN CYRRAEDD O GYFEIRIAD ARALL.”

Ac fel y gorffennai ddweyd hyn wrtho ei hun, y mae’n codi i fyny, ac yn cychwyn cerdded at y goeden nesaf ato, ond cyn ei fod wedi rhoi eithaf tri cham y mae’n teimlo ei draed yn glynu yn y ddaear, ac nis gallai mewn modd yn y byd fynd yn ol nac ymlaen. Ni fu erioed yn y fath benbleth; er troi a chroesi a gwingo nes peri poen iddo ei hunan, nid oedd ronyn nes i symud modfedd. Gan nad oedd hyn yn tycio, penderfynodd sefyll yn llonydd a galw’n uchel ar Garadog, a galw y bu ar uchaf ei lais, ond nid oedd neb yn ei ateb. Yr oedd distawrwydd y lle yn llethol. Pan ar dorri i wylo gan y braw a’r unigrwydd, tybiodd ei fod yn clywed rhyw sŵn o’r tu ol. Trodd ei ben, ac er llawenydd digymysg iddo, gwelai Dylwyth y ddwy gadwen yn ymwthio i’r golwg heibio bôn un o’r coed. Nid yw dweyd ei fod wedi edrych yn syn pan welodd Hywel ond ffordd eiddil iawn o’i ddisgrifio. Mewn gwirionedd yr oedd am foment yn rhy syn i dorri gair, nac i symud. A Hywel yn erfyn arno am iddo ei helpu i ddod yn rhydd ac i ddefnyddio ei draed fel cynt. O’r diwedd y mae y teimlad o syndod yn ei adael a ffwrdd ag ef yn ol i rywle gan ddychwelyd ymhen eiliad neu ddau gyda llond ei ddwylaw o rywbeth tebig i fwsog, ond ei fod yn fwy sidanaidd, a chyda brys ac egni eithriadol y mae yn dechreu rhwbio traed Hywel, ac yn fuan iawn yr oedd yn gallu symud mor ysgafndroed ag erioed, a chynnes iawn oedd ei ddiolch am y fath waredigaeth. Ond nid oedd Tylwyth y ddwy gadwen fel pe’n gwrando ar ei eiriau, gymaint ei frys ydoedd am gael gofyn,—“Paham yr ydych chwi yn y fan hyn? Lle mae Caradog?”

Ac ebai Hywel,—

“Mae’n rhaid fod y Tylwyth Teg wedi camgymeryd, ac wedi mynd a Charadog dros y gamfa, a fy nghario innau i’r fan hyn.”

“Dim o’r fath beth,” ebai yntau, gan ysgwyd ei ben yn brudd, “dim o’r fath beth.”

“Wel, os na wnaethant gamgymeriad,” ebai Hywel, “feallai eu bod wedi gwneud hyn er mwyn cael tipyn o hwyl.”

“Hywel, peidiwch byth a dweyd hynyna eto. Mynd o gwmpas i helpu rhai fel y chwi ydyw gwaith y Tylwyth Teg, ac nid i ychwanegu at eich rhwystrau.”

“Rhaid, felly, mai chwi wnaeth gamgymeriad wrth ddweyd am y ddwy gadwen,” ac fel y cofia Hywel am y cadwyni, gafaela yn ei gadwen, ac am y tro cyntaf er pan y rhoddai’r Tylwyth hi, ac y derbyniai Hywel hi, y mae y ddau yn edrych arni, a chyda’i gilydd bron y mae y dyn bychan gwyrdd yn dweyd,—“Dyma eglurhad ar y cwbl,” a Hywel yn gofyn,—“Beth yw hyn? Cadwen Caradog yw hon; cadwen o rawn hirgrwn oedd gen i.”

“Ie,” ebai Tylwyth y ddwy gadwen, “ond y mae y Tylwyth Chwim wedi eu newid. Mae’n rhaid ei fod yn ymyl pan oeddwn yn eu rhoddi i chwi ac yn gwrando ar y cynllun. Ow! Ow! fel y bydd y Tylwyth Teg yn gofidio am hyn. A minnau wedi ymroddi gymaint i ennill eu ffafr, ac mor agos i gael fy ngwobrwyo ganddynt. Ond yn awr collaf y cwbl.”

“Nis gallant eich beio chwi,” ebai Hywel, “y Tylwyth Chwim sydd yn gyfrifol am hyn i gyd. Pe cawn i weld y Tylwyth Teg, buaswn yn eu sicrhau nad oes bai arnoch chwi. Ond gan nad yw hyn yn bosibl, deydwch wrthynt fod Hywel,—dyna fy enw,—yn barod i dystio o’ch plaid.”

“O, Hywel, yr ydych yn garedig, ond nid ydych yn deall rheolau y Tylwyth Teg. Bydd yn rhaid i mi anfon rhai o’n Tylwyth ni atynt i ddweyd yr holl hanes, ac nis gallaf gelu nad wyf wedi bod yn ddiofal, ac wedi bod yn achos iddynt dorri un o arferion pennaf eu llys.”

Edrychai Tylwyth y ddwy gadwen mor ofidus fel nad oedd yn syn gan Hywel ei weld yn syrthio i lawr a’i wyneb i’r gwellt fel pe wedi ei lethu gan dristwch. Ac ebai wrtho, gan ei gynorthwyo i godi i fyny,—

“Peidiwch a digaloni. Dowch, codwch ar eich traed. ’Rydach chwi wedi gwneud eich goreu. Mi ddof i’ch canlyn; ’rwyf yn sicr y gellwch fy helpu eto.”

Cododd yntau gan edrych ychydig yn fwy siriol, ac meddai,—

“Mae’n dda gen i eich clywed yn deyd fy mod wedi gwneud fy ngoreu. Ond nis gallaf eich helpu fy hunan, ac felly af i chwilio am rai o fy nhylwyth. Rhyngom yr ydym yn sicr o fedru eich cynorthwyo. Ond gwell i chwi beidio dod gyda mi; gallaf gerdded gymaint yn gynt na chwi, ac ymwthio drwy leoedd bychain, a thrwy hynny arbed llawer o gerdded. Arhoswch yn y fan hyn am danaf, a chymerwch ofal rhag symud oddi yma, na chau eich llygaid am foment, rhag ofn i chwi gysgu ac i’r Tylwyth Chwim ddyrysu fy nghynllun eto. Dyma fi’n mynd; gwnewch bob ymdrech i gadw’n effro.”

“Peidiwch pryderu,” ebai Hywel, “mae cwsg ymhell iawn oddiwrthyf.”

“Ymhell y byddo,” ebai yntau, gan brysuro o’r golwg drwy y gwellt.

IV. Y Chwibanogl

Ychydig feddyliai Hywel, tra yn cerdded yn ôl ac ymlaen o dan y coed helyg, ei fod o fewn ergyd carreg i brif gyrchfan y Tylwyth Chwim. Ond ganfod y lle wedi ei amgylchynnu â gwrychoedd tewion, uchel, nid oedd sŵn eu gloddest yn cyrraedd hyd ato. Yr oedd yn y llys y diwrnod hwnnw ddwsinau ohonynt, a phob un yn ei ffordd ei hun yn dangos mor llawen y teimlai, ac amlwg arnynt mai yr un oedd testun llawenydd pob un, ond anodd deall pa beth ydoedd, nes iddynt ffurfio yn orymdaith, a dyna lle ’roeddynt yn gorymdeithio bob yn ddau, a phob dau yn cario rhyngddynt ysgub o ddail, ac wedi dod i lecyn neilltuol yn eu gosod i lawr yn daclus, ac felly erbyn i’r ddau olaf osod eu hysgub, yr oeddynt wedi ffurfio llwyfan fechan, ac yna y maent yn sefyll yn dyrfa o’i blaen mewn distawrwydd. Ond torwyd ar y distawrwydd yn fuan gan sŵn chwibanogl, a dacw ganwr y chwibanogl i mewn drwy y porth, yn cael ei ddilyn gan yr un newidiodd y ddwy gadwen. A’r foment y mae yn ymddangos yn y llys dyna y miri a’r sŵn yn ail ddechreu, a chroeso arwr yn cael ei roddi iddo. Aeth yntau ymlaen i sefyll ar y llwyfan, ac wedi peri iddynt eistedd ar y gwelltglas, dechreuodd adrodd yn fanwl yr hanes sydd eisoes yn hysbys i ni, wedi ei fritho yn helaeth gan ei deimladau personol ef pan yn cyflawni y gorchestwaith, ac mor fedrus ydoedd gyda’r gwaith fel y gellid tybio fod ei wrandawyr yn berwi drosodd o edmygedd ohono. Ond cyn iddo ddod i derfyn ei hanes, dyna dri o’r tylwyth yn rhuthro i mewn, yn galw’n uchel am osteg, trodd pawb eu llygaid arnynt, ac ebai un ohonynt, a’i lais yn crynu gan bwysigrwydd yr hyn a ddywedai,——

“Mae un o gyfeillion Tylwyth y Coed yn cerdded yn ôl ac ymlaen dan y coed helyg.”

Ar amrantiad dyna y rhai oedd ar y gwelltglas yn neidio ar eu traed wedi eu cynhyrfu gan yr hyn a glywsant.

Ac ebai’r un oedd ar y llwyfan, yn syn,—“Yn cerdded yn ôl ac ymlaen, onid yw wedi glynu ar y gwelltglas?”

“Nac ydyw, y mae Tylwyth y ddwy gadwen wedi ei ollwng yn rhydd, ac wedi mynd i chwilio am ragor o’r Tylwyth i’w arwain oddiyno. Byddant yn ôl gyda hyn. Rhaid prysuro os ydym am eu rhwystro.”

“Yr un sydd ar yr ysgubau sydd i drefnu’r gwaith,” ebai un o’r lleill.

“O’r goreu,” ebai yntau, “ ’rwyf yn foddlon.” Yna trodd at y sawl oedd a’r chwibanogl ganddo, gan ddweyd,—

“Dos di i chwarae y chwibanogl tu ôl i’r gwrych, a chofia chwarae y gân oreu sydd gennyt at suo un i gysgu. Deuaf finnau a rhai eraill ohonom i’w gario yn ôl i’r lle y gwelais ef gyntaf. Nid wyf am ei ddwyn i’n llys yn awr; gwell gen i cyn ei arwain yma ei ddefnyddio i boeni Tylwyth y Coed. Dyna y cynllun goreu, onide?”

“Ie, o ddigon,” ebai y gweddill, gan ddilyn tylwyth y chwibanogl drwy y porth, ac yna y maent yn sefyll gyda’i gilydd i’w wylio yn prysuro i gyfeiriad y coed helyg.

Fel y nesai atynt dechreuai Hywel ofni fod Tylwyth y ddwy gadwen wedi ei anghofio, ac ar fin penderfynu cychwyn i chwilio ei hunan am y llwybr oedd yn arwain at y gamfa, ond yn sydyn, dyna nodyn cyntaf y chwibanogl fel yn llanw yr awyr o’i gwmpas. A chan mor hyfryd a pheraidd ydoedd, safodd Hywel yn syth a’i holl feddwl ar unwaith wedi ei iwyr feddiannu gan y miwsig.

“Ardderchog, dderyn bach,” meddai, “ble ’rwyt ti, tybed?”

A dyna lle ’roedd yn craffu rhwng brigau y coed, ond yn methu yn lân a gweld yr aderyn, a’r miwsig yn para i fwrlymu i’w glustiau nes bron a’i wirioni. Ond er ei fraw, ymhen ychydig funudau y mae yr awydd am gysgu yn dechreu ei feddiannu.

“O, na,” ebai Hywel wrtho ei hunan, “wnaf fi ddim cysgu am bris yn y byd. ’Rwyf yn benderfynol o gadw’n effro, beth bynnag.”

Ond fel yr oedd y miwsig yn parhau ac yn cynhyddu mewn swyn i suo, yr oedd yr awyddi gysgu ar Hywel yn mynd yn gryfach, gryfach, a chredai pe bai ond yn cau ei lygaid am foment y byddai ar unwaith yng ngafael cwsg.

“Yn wir,” meddai, “mae’n rhaid i mi wneud rhywbeth i gadw’n effro, mi neidia i a mi wna bob campiau fedra i.”

Ond yn hytrach na’i wneud yn fwy effro, yr oedd pob ysgogiad yn peri iddo deimlo yn fwy blin ac yn fwy awyddus i gysgu. Ac o’r diwedd y mae’n dechre sylweddoli mai y miwsig oedd yr achos o hyn, ac meddai, “Miwsig yr aderyn yna sydd yn codi eisiau cysgu arnaf, rhoddaf fy mysedd yn fy nglustiau rhag ei glywed er cystal ydyw.”

Ond nid oedd yn bosibl ei gau allan o’i glyw, yr oedd fel pe’n treiddio trwy esgyrn ei ben. “Wel,” meddai, “mi ganaf fy hunan gan uched ag y medraf.”

A dechreuodd ganu un o hen alawon Cymru, ond aeth yr alaw i gadw cwmni i’r miwsig arall ac i’w helpu, a rhyngddynt aeth yn fwy anodd i Hywel gadw’n effro, ac meddai,—

“Mae’r gân yna yn rhy leddf, mi ganaf un arall a thipyn mwy o fynd ynddi.”

Ac felly y gwnaeth. Ond er canu ar uchaf ei lais mynnai cwsg y llaw drechaf arno, ac o’r diwedd, wedi llwyr ddiffygio gan ei ymdrechion i gadw’n effro, y mae’n syrthio i lawr ar y gwelltglas ac yn cysgu.

Yr oedd Tylwyth y Chwibanogl yn gwylio ei holl symudiadau drwy y gwrych, ac yn fuan wedi iddo ddisgyn i lawr y mae’n ymwthio drwy y drain ato, ac wedi sefyll uwch ei ben am foment, a chael sicrwydd fod cwsg wedi ei drechu, rhedodd nerth ei draed yn ôl i’r llys. Yn y fan honno yr oedd yr un adwaenwn fel Tylwyth yr Ysgubau, a phump o rai eraill yn ei ddisgwyl yn ddyfal, a phan welsant ef,—

“A lwyddaist ti?” meddent gyda’i gilydd.

“Do,” ebai yntau, “ond cefais gryn drafferth. Gwnaeth ymdrech galed i gadw’n effro. Buasai’n werth i chwi fod yno i weld yr ystumiau yr aeth drwyddynt, ac yn y diwedd dechreuodd ganu. Ha! Ha!! Ha!!! ni chefais gymaint o hwyl ers talm.”

Chwarddodd y rhai oedd yn ei wrando, ac meddai un ohonynt,—“Mae’n amlwg ein bod wedi cael colled!” Ac ebai Tylwyth yr Ysgubau,—“Na feindiwch, cawn glywed yr hanes yn fanwl pan gyferfydd y llys y tro nesaf. Ond gadewch i ni yn awr brysuro at y coed helyg, rhag ofn i Dylwyth y Coed gael y blaen arnom a difetha ein hwyl.”

Ac ar hynny y maent yn cychwyn.

Penrhyndeudraeth.

V. Tylwyth y Coed

Pan ddaethant at Hywel, parhâi i gysgu, ac yn bur ddiseremoni y maent yn ei gario i’r llecyn lle’r cyfarfyddodd â Charadog, ac wedi ei osod i orwedd yn y gwellt, prysurant ymaith. Ni pharhaodd cwsg Hywel yn hir, ond fel y gellid disgwyl, pan ddeffrôdd yr oedd yn methu’n lân ac amgyffred pa le’r ydoedd, ac meddai, gan edrych yn syn o’i gwmpas,—“Sut yn y byd y deuais i i’r fan hyn? Y goedwig yma ydyw y lle rhyfedda welais i erioed. ’Rydw i ’n mynd i gysgu mewn un lle ac yn deffro mewn lle arall. Dyma y fan y cyfarfyddais â Charadog, a dyma’r gangen a’r goeden lle’r oedd yn siglo ei hunan, a dyma’r llecyn lle safai Tylwyth y Coed i siarad hefo mi. Lle mae o tybed erbyn hyn? ’Roedd o ’n deyd mai rhyw Dylwyth Chwim a’m cariodd at y coed helyg, a oes a wnelo rheini rywbeth ysgwn i a fy nwyn yn ôl i’r fan hyn? Os mai hwy sydd yn fy nghario fel hyn o un lle i’r llall, mae’n rhaid eu bod yn gryfach, neu os nad yn gryfach, yn fwy cyfrwys na Thylwyth y Coed a’r Tylwyth Teg gyda’i gilydd. Beth bynnag am hynny, y mae’n rhaid i mi symud o’r fan hyn a chwilio fy hunan am y llwybr sy’n arwain at y gamfa. A chan na chaf weld y Tylwyth Teg, gobeithiaf y caf lonydd gan y ddau dylwyth arall.”

Ond nid oedd Hywel i gael ei ddymuniad. Yn wir, nid oedd wedi cerdded lawn ddwsin o lathenni nac y daeth yn sydyn heibio trofa yn y llwybr i gyfarfod nifer fawr o Dylwyth y Coed, a phob un ohonynt â gwialen hir yn ei law a thusw o ddail ar ei phen, a phan welsant Hywel y maent i gyd yn sefyll ac yn edrych, neu yn fwy cywir, yn rhythu arno, ac yna, yn hollol ddirybudd, yn rhuthro ato ac yn dechreu ei guro â’r tusw dail ar draws ei goesau a’i freichiau, a Hywel yn llefain,—“O peidiwch, peidiwch. Beth wyf wedi wneud i haeddu cael fy nghuro gennych?” A hwythau yn dal i guro ac i siarad ar draws ei gilydd,—

“Mae wedi yspeilio un o’n tylwyth.”

“Mae’n gwisgo ein cadwen.”

“Rhaid ei fod am ladrata ein coed.”

“Tyn y gadwen a dyro hi i ni.”

Heb oedi, tynnodd Hywel y gadwen, a lluchiodd hi i’w canol, ac ar unwaith y maent yn peidio a’i guro, ac ebai yntau, gan deimlo bron wedi colli ei anadl wrth geisio osgoi y gwiail,—“Pam na fuasech chi ’n deyd mai eisiau y gadwen oedd arnoch? Ei chael yn anrheg gan un o’ch tylwyth wnes i. Y mae i chwi groeso ohoni; bu’n fwy o rwystr nac o help i mi.”

Yr oedd Hywel yn siarad ar uchaf ei lais, ond nid oedd Tylwyth y Coed yn gwrando ar yr un gair a ddwedai. Yr oeddynt i gyd yn ymwasgu o gwmpas yr un oedd a’r gadwen yn ei ddwylaw, yn ei hedrych yn fanwl, ac yn sibrwd yn gyflym a’i gilydd, ac wedi cael boddlonrwydd ynglŷn â’r gadwen, y maent yn troi at Hywel, ac ebai un ohonynt,—“Tyrd gyda ni i’n llys.”

“Na ddeuaf,” ebai Hywel, gan afael yn dyn â’i freichiau mewn coeden oedd yn ymyl.

“O’r goreu, ni wnawn dy orfodi.” A chyda dweyd hyn y maent yn prysuro ymaith.

Ac ebai Hywel,—“Rhyw greaduriaid rhyfedd ydyw Tylwyth y Coed. ’Rydw i bron a dechreu meddwl mai hwy ydyw y tylwyth i’w hosgoi ac nid y Tylwyth Chwim.”

Oherwydd i’r syniad yna ddod i’w feddwl, collodd gyfleustra pe wedi manteisio arno, fuasai yn ei ddwyn i ganol cyfeillion, ac yn fuan wedi hynny, dros y gamfa. Ar eu ffordd i lecyn neilltuol yn y goedwig i fwynhau eu hunain yr oedd Tylwyth y Coed pan y cyfarfyddasant â Hywel. Ond parodd gweled y gadwen am ei wddf, a’i chymryd oddi arno, gymaint o gynnwrf yn eu plith fel y penderfynasant ddychwelyd i’w llys i hysbysu y gweddill o’r Tylwyth yr hyn oedd wedi digwydd, ac i gyflwyno y gadwen yn ôl i’w pherchennog. Darn o dir crwn oedd eu llys wedi ei amgylchynnu â gwrychoedd uchel, yn llawn o ddail gwyrdd, y gwyrdd tlws hwnnw welir yn niwedd y Gwanwyn, ac un bwlch yn y gwrych wedi ei dorri ar ffurf porth yn arwain iddo. Yr oedd y llawr fel melfed esmwyth, ac yma ac acw drwy y gwrych yr oedd blodau mawr melyn yn gwthio eu pennau ac yn llenwi y lle â pherarogl hyfryd. Ac fel yr oedd y rhain fu yn curo Hywel yn neshau, sefai Tylwyth y ddwy gadwen o flaen un o’r blodau, fel pe’n myfyrio wrtho ei hunan, ond torrwyd ar ei fyfyrdodau gan sŵn Tylwyth y tusw dail yn neshau at y porth, a chyda nifer o rai eraill aeth i’w cyfarfod, a phan yn cyrraedd hyd atynt, gwelai un ohonynt a’r gadwen hirgrwn yn hongian wrth ei dusw, a chlywai ef yn traethu’n hyawdl fel yr oeddynt wedi cyfarfod Hywel, a’r hyn ddigwyddodd ar ôl hynny, ac yn diweddu gyda gofyn,—“Eiddo pwy ydyw?”

“Y fi bia’r gadwen,” ebai llais yn llawn prudd-der. A phan welwyd pwy oedd ei pherchennog estynwyd y gadwen iddo ar unwaith.

“Ond,” meddai un ohonynt, “pam yr wyt ti mor brudd?”

“O,” ebai yntau, “y mae fy nhylwyth wedi gwneud camgymeriad mawr heddiw. Dyma’r ail newydd drwg i mi. Y bore clywais fod un oeddwn wedi addo ei helpu wedi ei gipio i rywle gan y Tylwyth Chwim, cyn i’r help oeddwn yn anfon iddo ei gyrraedd. Ac yn awr, dyma chwithau wedi ei gyfarfod, ac wedi ymddwyn tuag ato fel gelyn, pan nad ydyw ond bachgen diniwed wedi colli ei ffordd yn y goedwig. Y fi roddodd y gadwen iddo, a dyma’r hanes.”

Nid oedd ball ar gydymdeimlad Tylwyth y Coed pan glywsant hanes Hywel, ac i ddangos mor ddwfn eu gofid oherwydd yr anffawd, y mae y rhai fu yn ei boeni yn malu y gwiail a’r tusw dail yn ddarnau mân, ac yn cyflwyno yr hawl i gario gwiail i eraill o’r tylwyth, hyd nes y deuid o hyd i Hywel.

Ac meddai Tylwyth y ddwy gadwen,—“Bydd i mi dreulio bob dydd o’r bore hyd yr hwyr i chwilio am Hywel, ni orffwysaf nes cael ei gyfarfod eto.”

Ac ebai un arall,—“Daw un rhan ohonom i’th ganlyn, ac fe aiff rhan arall i chwilio o’r hwyr hyd y bore.”

VI. Y Tylwyth Chwim

Pan yr oedd Tylwyth y Coed yn cychwyn allan i chwilio am Hywel, yr oedd yntau, ar ôl hir grwydro yn y goedwig, wedi eistedd wrth fôn derwen yn eithaf blin a digalon. A’r syniad mai Tylwyth y Coed oedd y tylwyth i’w osgoi wedi cynhyddu cymaint nes, erbyn hyn, collodd pob ymddiried ynddynt, a gobeithiai na welai yr un ohonynt byth mwy. A chyda bod y dymuniad wedi ei ffurfio yn ei feddwl, yn sydyn a hollol ddirybudd, amgylchynid ef â nifer o’r Tylwyth Chwim. Adwaenodd hwy ar unwaith oddiwrth eu lliw, a chan eu bod yn edrych mor hoffus arno, gwenodd arnynt, a hwythau yn gwenu’n ôl, ac yn moesymgrymu iddo. Yr oedd ofn y Tylwyth Chwim wedi diflannu pan gollodd ei hyder yn Nhylwyth y Coed. Ac wedi i un ddod i sefyll at ei ymyl, y mae’n ei gyfarch fel hyn,—

“Dydd da, ymwelydd. Gobeithiwn dy fod yn mwynhau dy hun yn ein coedwig. Ers pa hryd yr wyt yma?”

Pe bai Hywel heb fod yn cysgu yr adeg honno gallasai ateb,—

“Deuthum i mewn ychydig funudau cyn i chwi newid fy nghadwen.” Oblegid yr un wnaeth hynny oedd yn ei gyfarch. Ond gan na wyddai atebodd fel hyn,—“Yr wyf yn y goedwig ers oriau, mi gredaf, ond nid wyf wedi mwynhau fy hunan. Collais y llwybr gynted ag y deuthum i mewn. Yn wir, yr wyf yn ameu a gefais hyd iddo o gwbl. Mae yma gymaint o lwybrau yn groes ymgroes, fel mai anodd iawn yw gwybod pa un sy’n arwain at y ffordd. Ac yr wyf wedi ymdroi gymaint eisioes nes mae’n hen bryd i mi gael mynd dros y gamfa. A ellwch chwi fy nghyfarwyddo?”

“Gyda phleser,” ebai y Tylwyth Chwim gyda’i gilydd. “Ond cyn i ni gychwyn,” ebai’r un oedd wedi ei gyfarch gyntaf, “Os wyt am i ni dy ddiogelu ar dy daith, mae’n rhaid i ni gael gafael ynnot, ac nis gallwn wneud hynny yn hawdd heb gael dy gylymu â rhaffau sydd gennym bob amser gyda ni at wasanaeth rhai fel ti fydd mewn angen cynorthwy.”

Ac meddai wrth y gweddill, cyn i Hywel gael hamdden i dderbyn y rhaffau na phrotestio yn eu herbyn,—“Dylwyth Chwim, moeswch y rhaffau.”

A dyna bob un yn tynnu allan o’i fynwes raff deneu, hir, wedi ei gwneud o rywbeth tebig i frwyn. Ac meddai Hywel, gan chwerthin, wedi edrych yn syn ar y rhaffau am eiliad, “Croeso i chwi fy nghlymu, os bydd hynny o ryw help i mi gyrraedd y gamfa yn gynt.”

“Gwna fwy na hynny,” ebai’r un oedd fel arweinydd arnynt, gan ddechreu ar y gwaith o’i gylymu. “Gall Tylwyth y Coed ddod yn sydyn a dy gipio oddiarnom pe cerddit yn rhydd, a dy ddwyn yn garcharor i’w llys.”

“Tylwyth y Coed,” ebai Hywel, “Yr wyf wedi cyfarfod un ohonynt eisioes.”

Ac adroddodd iddynt yr hyn oll a glywsai ganddo. A hwythau, wrth wrando arno, un foment yn rhyfeddu, a’r foment nesaf yn gresynu ei fod wedi clywed y fath anwiredd am danynt, ac yn bygwth ymlid Tylwyth y Coed o’r goedwig am byth. Nid oedd Hywel yn rhoddi nemawr o wrandawiad i’r hyn ddywedent, yr oedd eu gwylio yn ei gylymu yn hawlio ei sylw bron i gyd, a thybiai gan mor chwim yr oeddynt yn gwneud y gwaith eu bod yn wir deilwng o’u teitl fel tylwyth. Yr oedd un yn cylymu ei raff am ei fraich dde, un arall am ei fraich chwith; rhai eraill ohonynt yn cylymu eu rhaffau am ei goesau, ac eraill yn cylymu eu rhaffau am ei fysedd. Yr oedd rhaff un arall wrth ruban ei gap, a rhaffau dau ohonynt wedi eu cydio wrth gareiau ei esgidiau. Ac fel yr oeddynt yn cychwyn, wedi gorffen y cylymu, chwarddent yn uchel, ac ofnai Hywel fod yna rhyw dinc amhersain yn eu lleisiau, oedd yn peri i’w chwerthin fod yn debig i grechwen, ac hefyd yn peri i gwestiwn pwysig ymwthio i’w feddwl,—“Pa un, tybed, yw y tylwyth goreu i’w ddilyn?” Ac ni fu raid iddo aros yn hir heb allu ei ateb. Tybiai pan yn edrych arnynt yn ei gylymu â rhaffau meinion o frwyn, na fuasai yn teimlo y nesaf peth i ddim oddi wrthynt, ond wedi cychwyn ar eu taith yr oedd y rhaffau mor boenus â phe wedi eu gwneud o rhyw fath o fetel, ac nis gallai lai nac ofni eu bod yn croes-dynnu yn fwriadol er peri poen iddo. A gofynnodd yn wylaidd a oedd yn bosibl iddynt lacio eu gafael yn y rhaffau. Ond pan wnaeth y cais y maent i gyd yn chwerthin, ac yna yn rhoddi un plwc gyda’i gilydd nes yr oedd Hywel, druan, yn llefain gan y loes dros y lle. A phenderfynodd wrth fynd ymlaen gyda hwy y byddai ei gais cyntaf y cais olaf hefyd. Toc, y mae yn cael cip-olwg ar y gamfa, draw, yn y pellter, ond yn lle dal i fynd tuag ati, y maent yn troi yn sydyn i gyfeiriad arall a’i redeg, a rhedeg y buont gyda y fath gyffymder fel mai gydag anhawster yr oedd Hywel yn gallu eu dilyn. Yna, wedi sefyll am ychydig, aethant ymlaen yn araf, mor araf nes gwneud i Hywel anobeithio cael myned o’r goedwig byth. Sylwodd hefyd fel yr oeddynt yn myned drwy y coed a’r gwrychoedd, fod yr adar i gyd yn tewi a chanu, a bod pob wiwer a gwningen yn yswatio ac yn ymguddio nes yr elent heibio. “Yn wir,” ebai Hywel wrtho ei hunan, “yr wyf wedi methu wrth ddod i ganlyn y tylwyth yma. Fel yr wyf yn ymdroi yn eu cwmni, mae hyd yn oed eu lleisiau yn ddigon aflafar i godi poen yn fy mhen, ac yn torri hyd yn oed ar fiwsig y goedwig. Ond yr hyn sy’n peri mwyaf o boen i mi yw gwybod fy mod a fy nghefn at y gamfa.”

VII. Yr Afal

Ylle nesaf y cafodd Hywel ei hunan oedd yn sefyll o flaen twmpath tew o ddrain, ac arweinydd y Tylwyth Chwim yn dywedyd wrtho,—

“Ymwthia drwy y drain, a gwna y llwybr mor lydan ag y gelli i ni gael dy ddilyn heb i’r drain ein anafu.”

Ni feiddiai Hywel anufuddhau i’w gais na phetruso cyn ei gyflawni, ac felly y mae yn ymwthio trwy y drain, ac yn ymwthio gyda’r fath egni fel, erbyn cyrraedd yr ochr arall, yr oedd ei ddillad yn garpiau. Prysurodd y Tylwyth Chwim ar ei ôl, ac amlwg arnynt fod yr olwg arno cystal â gwledd; a’u crechwen yn achosi mwy o ofid i Hywel na chyflwr truenus ei ddillad. O’r fan honno cerddent ymlaen a deuent cyn hir at goeden afalau, ac ar un o’i brigau uchaf hongiai un afal mawr, coch, addfed, ac wrth ei weled daeth awydd angerddol ar Hywel am rywbeth i’w fwyta, ond gan nad oedd ond un ar y goeden ni hoffai ofyn amdano rhag ofn fod un o’r Tylwyth Chwim wedi meddwl am ei gael iddo ei hunan, gan eu bod wedi sefyll i edrych arno ac i’w edmygu. Ond fel yr oedd Hywel yn ei flysio ac yn ei chwennych, y mae arweinydd y Tylwyth yn gofyn,—“Hoffet ti gael yr afal?”

“Hoffwn yn fawr,” ebai Hywel.

“O’r goreu, mi ddringaf i’w ’nôl, ond y mae yn rhaid i ti ei ennill cyn y cei ei fwyta.”

Ac i fyny ag ef i ben y goeden, a thynnodd yr afal oddiar y brigyn. Yna, wedi iddo ddod i lawr, y maent yn cychwyn drachefn, ac yntau yn cario yr afal gerfydd ei goes wrth ei ochr, a Hywel yn meddwl wrtho ei hunan,—

“Am ba hyd tybed y buasai afal trwm yn goddef cael ei gario yn y dull hwnnw heb syrthio,” ac yn ceisio dyfalu beth oedd raid iddo wneud cyn dod i feddiant ohono. A dyfalu y bu am amser hyd y daethant i ben bryn bychan. Ac meddai un ohonynt wedi cyrraedd y llecyn hwnnw,—

“Gosodwch yr afal yn y fan hyn; rhoddaf finnau gychwyn arno i lawr y llechwedd, ac os gall Hywel ei ddal caiff ei fwyta.”

“Dyna gynllun teg,” ebai’r arweinydd, “ond peidiwch a gadael iddo gychwyn nes y bydd yr afal rhyw lathen o’i flaen.”

Ac felly y bu. Ond yn rhyfedd yr oeddynt rhywfodd gyda y rhaffau yn llwyddo i fedru cadw Hywel yr un pellter yn barhaus oddiwrth yr afal, nis gallai yn ei fyw fynd yn nes ato.

“Ond,” meddai wrtho ei hunan, “byddaf yn siwr o’i ddal wedi iddo gyrraedd y gwastad.”

Ac fel yr oedd yn neshau at waelod y bryn y maent yn caniatau iddo gyflymu, a chyflymu gymaint fel na welodd Hywel mewn pryd mai llyn oedd y lle gwastad, yn cael ei guddio â chaenen deneu o chwyn, ac yr oedd bron ar ei fin pan y gwelai yr afal yn diflannu ynddo, a’r un eiliad dacw y Tylwyth Chwim yn gollwng y rhaffau, a Hywel ar ei ben i’r llyn. Yn ffodus iddo nid oedd y dwfr yn ddwfn, ond yr oedd golwg truenus arno yn codi ohono yn wlyb diferol, a’r gaenen wyrdd oedd ar wyneb y llyn yn glynu wrtho. Yr oedd yn berffaith sicr erbyn hyn nas gallai yr un tylwyth fod yn waeth na’r tylwyth yma, a syllai arnynt gyda difrifwch yn crechwen ac yn ymrolio hyd lawr, fel pe bai y digrifwch roddai yr olwg arno iddynt yn fwy nas gallent gynnal. A da oedd ganddo eu gweled yn ailgychwyn, er bod ei glustiau yn merwino wrth eu clywed yn siarad â’i gilydd amdano fel hyn:

“Mae ei liw yn debig i Dylwyth y Coed.”

“Byddai yn hawdd ei gamgymeryd am un ohonynt.”

“Gwna frenin ardderchog iddynt; y mae mor ddewr a phrydferth.”

“Y mae mor hardd a’r Tylwyth Teg. Onid yw y dŵr a’r drain wedi gwneud eu hôl yn dda arno?”

“Mae’n dda gen i fod y rhaff yn ddigon hir i’w gadw ymhell oddiwrthyf.”

“Cawn groeso cynnes yn y llys pan welant ef.”

“Cawn,” ebai’r arweinydd, “gadewch i ni brysuro ymlaen. Mae gennym lawer o waith crwydro cyn cyrraedd yno.”

Ac ebai wrth Hywel,—“Pam na faset ti yn chwilio am yr afal ar waelod y llyn. Mae y llyffaint wedi gwledda arno erbyn hyn.”

“Mae croeso iddynt ei gael,” ebai Hywel, “y cwbl sydd arnaf fi ei eisiau ydyw cael mynd dros y gamfa.”

“Nid yw o bwys beth sydd arnat eisiau, yr hyn ydym ni yn ddymuno i ti gael, dyna gei di.”

Parodd clywed hyn i Hywel deimlo yn bur ddigalon, ond ni feiddiai eu gwrthwynebu, ac meddai wrtho ei hunan,—

“Mae pob munud wyf yn dreulio yng nghwmni y rhein yn gwneud i mi eu hofni’n fwy. Fe ddwedodd Tylwyth y Coed y gwir bob gair amdanynt. Ond waeth i mi heb a cholli amser i feddwl am hynny, y peth goreu i mi yn awr ydyw chwilio yn ddyfal am gyfle i gael dod yn rhydd oddiwrthynt. O na ddeuai Tylwyth y Coed i chwilio amdanaf. Er iddynt fy nghuro, credaf y buaswn yn ddiogel yn eu cwmni. Mae’r ffaith eu bod yn gyfeillion i’r Tylwyth Teg ac yn elynion i’r rhein, yn profi eu bod yn dylwyth da.”

Tra yr oedd Hywel yn myfyrio fel hyn, yr oedd y rhai o’i gwmpas yn siarad a’i gilydd.

“Faint o nythod adar ddaru ti chwalu eleni?” ebai un.

“Gormod i gadw cyfrif,” oedd ateb un o’r lleill.

“Faint bynnag chwelaist ti, ’rydw i ’n siwr mod i wedi malu mwy o wyau.”

“Mi wnes innau fy rhan,” ebai un arall, “hefo malu wyau a chwalu nythod. Ond fy ngwaith pennaf i oedd chwilio am guddfan y wiwer a dwyn y cnau a’r mês oedd hi wedi gadw at y gaeaf. ’Rwyf yn siwr fy mod wedi gwneud llu o gypyrddau yn wag.”

“Mi wnes innau y cwbl ydych chwi wedi enwi a mwy. Mi ês gyda dau arall bob cam i ffau tri o lwynogod i ddeyd lle ’roedd teuluoedd o wningod yn byw.”

“Ond beth yw hynyna i gyd i ymffrostio ynddo,” ebai’r arweinydd, “wrth yr hyn wnes i.” A rhoddodd blwc yn ei raff.

“Ha! ha!” ebai y lleill, gan ddilyn ei esiampl, nes peri i Hywel erfyn arnynt ymatal a llacio eu gafael. Yr hyn wnaethant wedi yn gyntaf gael caniatâd gan yr arweinydd a gorchymyn i redeg i gyfeiriad arall.

VIII. Y Wisg Ryfedd

Arhedeg y buont heb arafu cam nes y daethant at goeden fawr, ac yno y maent yn peri i Hywel eistedd wrth fôn y goeden, ac yntau yn ufuddhau gyda brys a diolchgarwch.

“Nid oes eisiau i ti ddiolch,” ebai’r arweinydd, “cei dy rwymo yn awr wrth y goeden gyda’r rhaffau, a chaiff dau ohonom aros yma i dy wylio, tra y bydd y gweddill a finnau yn mynd i le neilltuol yn y goedwig. Tynnwch y rhaffau, Dylwyth Chwim, a gadewch i ni ei rwymo yn dyn.” Gyda’r un medr ag y cylymasant ef y maent yn ei ddatod, ac yn ei rwymo wrth fôn y goeden.

“Oni fyddai yn well i dri ohonom aros i’w wylio?” gofynnai un ohonynt.

“Na,” oedd ateb yr arweinydd, “y mae’n berffaith ddiogel gyda dau; trowch i’r chwith a dilynwch fi.” A chan mai i’r chwith yr oeddynt yn troi, yr oeddynt o’r golwg bron gynted ag y cawsant y gorchymyn, a Hywel yn teimlo mai gwir a ddywedodd yr arweinydd pan y sylwodd ei fod yn berffaith ddiogel, oblegid yr oeddynt wedi ei gylymu mor dyn yn y goeden a phe bai ddarn ohoni, ac nis gallai symud llaw na throed. Ond gan fod ei dafod yn rhydd, mentrodd ofyn i’r rhai oedd yn ei wylio,—“I ba le y maent wedi mynd?”

A dyma’r ateb,—

“Maent wedi cael hysbysrwydd fod Tylwyth y Coed yn dod i’r goedwig heno i chwarae pan gyfyd y lloer, ac mae’n Tylwyth ni wedi mynd yno i roi olew glynu ar y glaswellt.”

“Olew glynu,” ebai Hywel, “beth yw hwnnw?”

“A gaf fi ddweyd wrtho?” gofynnai un i’r llall. “Cei,” ebe yntau, “mae’n bryd iddo gael gwybod rhai pethau. Bydd raid iddo ein helpu gyda’n goruchwylion gyda hyn.”

“Na fydd byth,” ebe Hywel wrtho ei hunan, gan arswydo wrth gofio yr hyn alwent yn oruchwylion.

Ac ebe un oedd yn siarad ag ef,—“Olew anweledig ydyw yr olew glynu, ac os bydd wedi ei roddi ar rywbeth a thithau’n sefyll ar hwnnw, nis gelli symud oddiyno nes daw rhywun atat i dy ollwng yn rhyrdd. Ac y mae ein Tylwyth ni am ei roddi ar y gwellt lle y bwriada Tylwyth y Coed chwarae heno. Ond unwaith y safant arno, bydd raid iddynt aros yno nes y cyfyd yr haul, pan y daw rhai o’u llys i chwilio amdanynt, gan eu bod i ddychwelyd gartref cyn i’r wawr dorri.”

“Sut y dônt yn rhydd yr adeg honno?”

“Aiff y lleill i chwilio am fwsog pwrpasol, a rhwbiant eu traed á’r mwsog, ac yna gallant symud yn rhwydd.”

Yn y fan daeth i gof Hywel, wrth glywed hyn, fel yr oedd ef wedi bod yn sefyll ac yn methu symud o dan y coed helyg, ac fel y darfu i Dylwyth y ddwy gadwen rwbio ei draed a’i ryddhau, a meddyliai,—“Nid dyma y tro cyntaf i’r giwaid yma gael gafael arnaf, fel y mynnai Tylwyth y ddwy gadwen i mi gredu cyn hyn. O na bawn wedi gwrando arnat! Pa bryd y caf dy gwmni eto, Dylwyth caredig?” Ond wrth y rhai oedd yn ei wylio, dywedodd,—“Gallwch fynd ar ôl eich Tylwyth os mynnwch. Byddaf yn sicr o fod yma pan y deuwch yn ôl, nis gallaf symud.”

“Digon gwir nas gelli symud. Ond beth pe bai Tylwyth y Coed yn dod yma ac yn dy ollwng yn rhydd? ’Does dim yn rhoi mwy o bleser iddynt na chroesi ein cynlluniau.”

“O diar,” meddyliai Hywel, “paham mae’n rhaid i neb gynllunio o’m hachos i? Y cwbl sydd arnaf eisiau yw mynd dros y gamfa.” Ac wrth gofio am y gamfa, aeth i feddwl am ei gartref, a’i dad, a’i fam, a’i nain, ac i hiraethu amdanynt, ac nis gallai atal dagrau gloywon rhag treiglo dros ei ruddiau. Ac ebe un o’r rhai oedd yn ei wylio,—

“Paid a gadael i’r Tylwyth weld dagrau ar dy wyneb, os nad oes arnat eisiau achos i golli rhagor.”

Ceisiodd Hywel ymwroli yn ddioed, a dyna lle’r oedd yn gobeithio â’i holl galon i’r awel sychu ôl y dagrau oddiar ei wyneb cyn i’r gweddill ddychwelyd. Yr oedd ei adnabyddiaeth ohonynt yn gyfryw fel nas gallai ond credu yr hyn a ddywedai ei wyliwr wrtho. A pharodd ystyried hyn iddo deimlo eto y dylai roddi holl rym ei feddwl ar waith i geisio cael dod yn rhydd o’u gafael. Pan yn meddwl am y cynllun yma a’r cynllun arall, a’r naill ar ôl y llall yn ymddangos yn llai posibl i’w gario allan, y mae y Tylwyth Chwim yn dod yn ôl ar redeg, ac amlwg ar eu hwynebau fod rhywbeth wedi eu llwyr gynhyrfu, ac meddai’r arweinydd wrth y gwylwyr,—

“Beth ddyliech chwi, y mae Tylwyth y Coed allan yn finteioedd i geisio cael Hywel o’n gafael. Cawsom air o’n llys pan oeddym o fewn ychydig lathenni i’w chwaraele, a throisom yn ôl heb golli eillad o amser. Yn awr, ewch chwithau ar redeg i’r llys i nôl gwisg iddo, gwisg goch fel ein gwisg ni.”

Heb aros i ofyn cymaint ag un cwestiwn, ymaith a’r ddau wyliwr fel dau ewig, a’r gweddill yn siarad yn gyflym â’i gilydd, ac ar draws ei gilydd, a phob gair ddeuai dros eu genau yn profi mor llawn o elyniaeth oeddynt at Dylwyth y Coed, ac mor sicr oeddynt y byddai i’r cynllun yma o’u heiddo o wisgo Hywel yn y wisg goch ddyrysu a chamarwain y rhai oedd yn ceisio ei waredu. Er bod llawer o’r hyn ddywedent yn synnu ac yn rhyfeddu Hywel, nid oedd yn cynhyrchu ond un cwestiwn yn ei feddwl,—“Sut yn y byd y medraf wthio eu dillad am danaf, a hwythau gymaint yn llai na fi?”

Ni chafodd amser i betruso yn hir. Yr oedd y ddau wyliwr yn ôl, ac yn ôl mewn cyn lleied o amser nes peri iddo gredu fod eu llys yn nes nag yr oedd wedi meddwl. Pan ddaethant gyntaf i’r golwg ar eu taith yn ôl, tybiodd, er ei lawenydd, gan nad oedd ganddynt ddim yn eu dwylo, eu bod wedi methu cael gwisg iddo, ond wedi iddynt ddod ato, gwelodd fod un ohonynt yn cario y wisg amdano, a gwaith ychydig o funudau oedd ei thynnu.

Y gorchwyl nesaf oedd rhyddhau Hywel, ac O! deimlad hyfryd pan y cafodd sefyll yn syth unwaith eto, ac edrych ar y rhaffau yn disgyn y naill ar ôl y llall wrth ei draed.

“Ond,” meddai, pan estynwyd y wisg iddo, “mae arnaf ofn ei rhwygo gan ei bod gymaint yn rhy fach i mi.”

Ac ebe’r arweinydd,—“Na, y mae y wisg yma yn wisg gywrain; fe ddeil i ymestyn nes bod yn ddigon mawr i un gymaint ddwywaith â thi.”

A thra yr oedd Hywel yn ei gwisgo, gwelodd fod yr arweinydd, am y tro hwnnw, beth bynnag, yn dweyd eithaf gwir. Wedi ond ychydig o drafferth yr oedd wedi ei wisgo yn hollol fel y Tylwyth Chwim, a hwythau yn sefyll o’i gwmpas nid i’w edmygu ef, ond i edmygu pertrwydd eu dyfais eu hunain, barodd iddynt ei droi i liw eu Tylwyth.

IX. Llys y Tylwyth Chwim

Fel yr oeddynt yn parhau i edmygu eu hunain, ac i dalu gwarogaeth i’w gilydd, a Hywel yn hiraethu am gael rhoddi ei fysedd yn ei glustiau rhag eu clywed, y mae sŵn utgorn peraidd yn torri ar eu clyw, ac ar amrantiad dacw’r Tylwyth Chwim yn un haid yn rhuthro â Hywel gyda hwy, ac yn mynd am ryw winllan fechan, oedd o fewn ychydig bellter i’r lle y safent, a chyda eu medrusrwydd arferol, yn dringo i fyny i’r coed ac yn ymguddio rhwng eu brigau deiliog.

“Mor ffôl y bum,” meddyliai Hywel tra yn dilyn eu hesiampl, “eu dilyn i’r fan hyn. Gallaswn yn hawdd fod wedi rhedeg i gyfeiriad arall; gwell fuasai i mi fod ar goll yn y goedwig nac yng nghwmni y rhein.” Ond yr oedd yn rhy hwyr iddo droi yn ôl pan y daeth y syniad i’w feddwl, ac nis gallai yn awr ond dal i ddringo a chwilio am le diogel rhwng brigau y coed. Ac yno y buont yn eistedd, a’r Tylwyth Chwim fel pe’n dal eu hanadl, ac yn eistedd mor llonydd a phe baent yn ddelwau, a’r dail mor luosog o’u cwmpas fel mai prin y gallent weled ei gilydd trwyddynt. A Hywel yn meddwl paham tybed y rhoddodd sŵn mor beraidd gymaint o fraw iddynt. Ac wrth ddisgyn i lawr wedi i’r sŵn ddistewi yn llwyr yn y pellter, gofynnodd i un ohonynt,—

“Pwy oedd yn canu yr utgorn yna?”

Atebodd yntau, “Nid yw o bwys i ti pwy oedd yn ei ganu. Oni bai fod ein gwisg ni am danat ni fuaset yn ei glywed.”

“Na faset,” ebe un arall, “ond o hyn allan gelli glywed nid yn unig yr utgorn yna ond clychau y Tylwyth Teg hefyd.”

Ac ebe Hywel wrtho ei hunan,—“A fydd hyn o ryw fantais i mi, tybed? A fydd clywed yr utgorn a chlychau’r Tylwyth Teg o ryw help i mi ddianc?” Ond i’r Tylwyth gofynnodd,—“A oes clychau gan y Tylwyth Teg?”

“Oes,” oedd yr ateb, “ond paid a holi dim yn eu cylch, nid yw yr arweinydd yn foddlon i ni sôn am danynt.”

Os cafodd y gobaith yn Hywel am gael dod yn rhydd ei gryfhau gan y wybodaeth fod yn bosibl iddo glywed yr utgorn a’r clychau, ni fu y mwynhad roddodd hyn iddo ond byr ei barhad, oblegid yn fuan wedi iddynt gychwyn o’r winllan, ebe’r arweinydd:

“Yn awr, heb oedi rhagor, gwell i ni gychwyn ar y llwybr sydd yn arwain gyntaf at ein llys.” A chyda dweyd hyn dringant dros wal uchel, ac i Hywel, er ei syndod, ymddangosai fel pe baent yn mynd o’u ffordd er mwyn cael ei dringo, ond cafodd fwy o achos i synnu pan welodd mai cors oedd yr ochr arall i’r wal, ac nis gallai ddeall fod llwybr mewn cors y llwybr cyntaf i unrhyw le. Ond trwy gors y bu raid mynd, a chan ei bod mor laith a sigledig, nid oedd yr un ohonynt, er mor chwim ydoedd, yn gallu prysuro drwyddi. Wedi o’r diwedd ddod allan ohoni, y maent yn dal i deithio yn yr un cyfeiriad heb droi i dde nac aswy. Ac nis gallai Hywel lai na sylwi ar y daith fel yr oedd popeth o’u cwmpas yn mynd yn llai prydferth. Y gwrychoedd yn mynd yn brinach o ddail; dail y coed wedi colli y gloywder oedd yn eu nodweddu mewn rhannau eraill o’r goedwig; y gwellt o dan eu traed yn mynd yn fwy caled ac anodd ei gerdded; pob blodeuyn fel pe wedi gwrthod tyfu yn unman mor bell ag y gwelai, a rhyw wreiddiau yma ac acw yn gwasgar arogl anhyfryd nes trymhau yr awyr o’u cwmpas. Toc, daethant at ffrwd o ryw ddwy lath o led, a throedfedd o ddyfnder, ac wedi sefyll yn y fan honno, y mae’r arweinydd yn mynd ac yn sibrwd rhywbeth yng nghlust pob un, ac fel yr oedd yn sibrwd, yr oedd gwên faleisus yn ymdaenu dros wyneb y sawl oedd yn gwrando, ac wedi sibrwd yng nghlust yr olaf, y mae’n nesu at Hywel ac yn dweyd gydag awdurdod yn ei lais:

“Mae eisiau i ti ein cario ar dy gefn bob yn un dros yr afon yma. Cei fy nghario i yn gyntaf.”

A chyda dweyd hyn y mae yn neidio ar gefn Hywel, ac yn ddiymdroi y mae yntau yn ei gario drwy yr afon i’r ochr arall. Ac yn dychwelyd i nôl y lleill y naill ar ôl y llall, nes yr oedd yn rhy flin bron i ymsythu. Ni feddyliodd erioed y gallai neb o’u maint fod drymed, yr oedd pob un ohonynt fel darn o blwm, a da iawn oedd ganddo gael rhoi yr olaf i lawr yr ochr bellaf i’r afon. Wedi cerdded ond ychydig o gamrau oddiwrth y dŵr, daethant at drofa, ac yn y fan honno, er braw mawr i Hywel, wedi iddynt fynd heibio y drofa, y maent yn dechreu crechwen a dawnsio a gwneud yr ystumiau rhyfeddaf arnynt eu hunain, ac yna wedi ysbaid o hyn, y maent i gyd yn ymsythu, a chan bwyntio i’r un cyfeiriad, y maent yn bloeddio gyda’i gilydd, “Dacw’r llys. Fe gawn groeso cynnes gyda hyn.” Ac ymroent i ragor o dwrf a miri, tra yr oedd Hywel yn sefyll o’r neilltu wedi ei feddiannu yn llwyr gan anobaith a braw. Ac yn dweyd wrtho ei hunan:

“Mae ar ben arnaf yn awr. O! na bawn wedi cael mynd dros y gamfa fel Caradog. Paham y gwnes dro mor ffôl ac uno â’r Tylwyth yma, a chymryd fy nenu ganddynt. Tybed fod Tylwyth y Coed yn parhau i chwilio am danaf? Pa le——”

Ond cyn iddo gael gorffen gofyn iddo ei hunan ei gwestiwn, sylwodd ar un o’r Tylwyth yn sefyll yn syth, ei wyneb yn gwelwi, ei enau yn symud, ac yna gydag anhawster yn bloeddio,—“Y rhaffau.” Ar amrantiad dacw y Tylwyth Chwim i gyd yn sefyll; dacw pob gwedd yn newid, a chyda’r un cyfyngder yn eu llais y maent gyda’i gilydd yn gwaeddi, “Y rhaffau.” Ac ebe’r arweinydd yn groch, gan ruthro yn ôl at y ffrwd,—“Yn ôl! Yn ôl! Rhaid dod o hyd iddynt.”

A ffwrdd â hwy, a Hywel am y tro cyntaf yn ysgafn ei galon yn ufuddhau i’r arweinydd. Ac heb gofio am ei gefn, i’w cario drosodd, yr oeddynt yn eu braw drwy y ffrwd fel saethau, ond prin yr oeddynt yn cadw y blaen ar Hywel gan mor llawen yr oedd cefnu ar eu llys yn peri iddo deimlo.

X. Colli’r Rhaffau

Ond nid oedd llawenydd Hywel yn llawenydd digymysg wedi i’r braw cyntaf wisgo ymaith, dechreua y Tylwyth Chwim atgofio a holi ei gilydd pa bryd y cawsant yr olwg olaf ar y rhaffau, ac yn unfryd yn sicrhau mai wrth y goeden lle y cylymwyd Hywel, a Hywel ar ôl iddynt apelio ato yn gorfod cadarnhau mai yno y gadawyd hwynt.

“Paham na faset ti yn galw ein sylw atynt, y gwalch dichellddrwg?” gofynnai un ohonynt.

Ac ebai yntau,—“Anghofiais bopeth amdanynt wrth eich dilyn chwi ar y fath ffrwst i’r winllan pan ganodd yr utgorn.”

Mae dy esgus yn eithaf parod; caiff wneud y tro hyd nes y deuwn o hyd i’r rhaffau.

Tra yn siarad fel hyn yr oeddynt yn cyflymu ymlaen o’r naill goeden i’r llall, ond yr oedd cymaint o goed o’u cwmpas ymhobman, a llu ohonynt mor debig i’w gilydd, fel mai nid ychydig o gamp oedd dod o hyd i’r un y gadawyd y rhaffau wrthi, ac fel yr oeddynt yn parhau i chwilio, dyfnhâi y pryder ar eu hwynebau, ac oddiwrth yr hyn ddywedent y naill wrth y llall deallodd Hywel paham yr oedd colli y rhaffau yn peri cymaint o ddychryn iddynt. I ddechreu, nid oedd ym meddiant y tylwyth i gyd ond y rhaffau oedd ar goll, ac os na ddeuid o hyd i’r rhain byddai yn rhaid i’r rhan fwyaf ohonynt droi allan i chwilio am eu defnydd oedd yn hynod o brin ac anodd ei gael, ac fe gymerai lawer iawn o amser, ond nid oedd yr amser gymerid i chwilio ond byr o’i gymharu â’r amser gymerid i blethu rhaffau newydd. Mwy na hyn, ymddiriedwyd y rhaffau i’r cwmni gan y llys fel arwydd o anrhydedd, am eu bod drwy eu gweithredoedd yn y gorffennol wedi profi eu hunain y cwmni mwyaf beiddgar a chyfrwys feddai y Tylwyth. Ond os byddai iddynt ddychwelyd i’r llys hebddynt, rhaid fyddai i bob un ohonynt dderbyn cosb drom, rhan o ba un oedd eu hamddifadu o’u rhyddid, ac ni fuasai cyflwyno Hywel i’r tylwyth yn lliniaru ronyn ar y ddedfryd. Deallodd Hywel hefyd nad hyn oedd unig gynnwys y gosb, ond fod yn bosibl i rywbeth llawer mwy ddigwydd os na ddeuid o hyd i’r rhaffau. Ond er clustfeinio, methodd yn lân a chael allan pa beth oedd hynny.

Tra yr oedd y Tylwyth Chwim yn cwyno ac yn griddfan, ac yn chwalu y gwellt a’r mwsog a phopeth oedd ar eu ffordd â’u traed ac â’u dwylo, chwiliai minteioedd o Dylwyth y Coed yma ac acw yn y goedwig am Hywel, a’r fintai fwyaf nid yn unig mewn rhif, ond hefyd mewn sêl yn cael ei harwain gan Dylwyth y ddwy gadwen. Nid oedd ball ar ei ymdrechion i ddod o hyd i Hywel, na therfyn ar ei ddyfalbarhâd, ac yr oedd drwy hyn wedi ennill edmygedd a chydymdeimlad y minteioedd eraill i gyd. Ac os byddai i rai ohonynt glywed neu weled rhywbeth dybient o bwys gyda’r gwaith, yn ddiymdroi ânt i’w hysbysu, gan ei ystyried yn brif arweinydd y minteioedd. Ac oddeutu yr adeg y dechreuai y Tylwyth Chwim chwilio am y rhaffau, yr oedd rhai o Dylwyth y Coed yn hysbysu Tylwyth y ddwy gadwen fel y llwyddasant i droi yn ôl y tylwyth gyda’r olew glynu, gan ychwanegu,—“Ond nid oedd Hywel gyda hwy, ac ofnwn ei fod wedi ei lusgo erbyn hyn i’w llys.”

“Na,” ebai yntau, “y mae fy mrawd yn aros o fewn y goeden onnen yng ngolwg porth eu llys, ac â’i lygaid treiddgar yn ddiarwybod iddynt hwy yn gallu gweld pob un aiff i mewn ac allan drwy y porth. Pan welais Hywel gyntaf, ar fy ffordd at fy mrawd yr oeddwn, a dyna’r gyfrinach oedd ganddo i ddweyd wrthyf, fod haid y rhaffau newydd adael y llys.”

Ac ebe un o’r lleill,—“Mae ein dyled yn fawr iddo, buasent wedi dod ar ein gwarthaf a’n niweidio lawer gwaith, onibai ei fod ef yn gwylio mor ddygn a medrus.”

Ar hynny y mae dau arall o’r tylwyth yn cyrraedd hyd atynt, ac meddent,—“Mae Tylwyth y goeden onen wedi ein hanfon atoch i ddweyd fod haid y rhaffau wedi bod o fewn ychydig i borth eu llys, ac yna wedi troi yn ôl yn sydyn, a bod yn eu mysg un mawr mewn gwisg fel eu gwisg hwy, ond yn llawer trymach ei droed, a mwy araf ei ysgogiadau.”

Pan glywsant hyn aeth yn siarad brwd rhyngddynt ar unwaith. Pob un yn gofyn cwestiwn haws ei ofyn na’i ateb, megis,—“Ai tybed mai Hywel ydyw?” “A ydyw yn bosibl iddynt gael gwisg ddigon mawr iddo?” “A fu Hywel yn y llys?” “A oedd Hywel wedi uno â hwy a chymeryd eu gwisg o’i fodd?” a llawer o gwestiynau cyffelyb. Ac ebe Tylwyth y ddwy gadwen wedi gwrando am ysbaid arnynt,—“Gan nad ydym yn alluog i ateb yr un o’r cwestiynau ydym yn ofyn, oni fyddai yn well i chwi fynd i chwilio am y Tylwyth Teg? Maent hwy yn gwybod llawer o hanes y Tylwyth Chwim, ac yn barod i wneud eu goreu i’n helpu ninnau bob amser. A oes un ohonoch wedi eu gweld yn ddiweddar? Fel y gwyddoch, er yr amser y newidiodd y Tylwyth Chwim y ddwy gadwen, yr wyf fi dan orfod i gadw oddiwrthynt, hyd nes y byddaf wedi llwyddo i goshi y Tylwyth Chwim, ac er mor bwysig yw hynny i mi, gwell gen i dreulio fy amser yn gyntaf i geisio dod o hyd i Hywel.”

Ac ebe un o’r lleill,—“Mi glywais i y Tylwyth Teg yn canu neithiwr y tu ôl i ogof y grisial.”

“Beth oeddynt yn ganu?”

“Y gân oeddit ti yn ganu y noswaith cynt.” Ymdaenodd prudd-der dros wyneb Tylwyth y ddwy gadwen, ac meddai, “Cân o hiraeth ydyw. Dyna y Tylwyth Teg gariodd Hywel a Charadog, a chyda hwy cyn hynny y byddwn i yn treulio yn ddedwydd y rhan fwyaf o fy amser, ond wedi i mi eu camarwain, cyn y caf eu cwmni eto rhaid i mi ennill ffafr eu brenhines yn ôl. O na ddeuai y cyfle yn fuan. Ond i ba ddiben y collir amser i siarad ac i ofidio yn y fan hon? Yfory, cyn toriad y wawr, pan y bydd Tylwyth Teg yn dychwelyd o’r dawnsfeydd i’w llys, caiff dau ohonoch fynd yno i ofyn am bob hysbysrwydd allant roi ynghylch gwisg y Tylwyth Chwim.”

Pan glywsant hyn dyna hwy gyda’i gilydd yn erfyn am gael eu hanfon ar y neges,—“Ni fum i yno ers amser maith,” ebe un; “Na finna,” ebe un arall, “ac yr wyf yn hiraethu am gael mynd”; “Mae gen i gyfeillion yno,” ebe un o’r lleill. “ ’Rwyf finnau yn gwybod y ffordd,” oedd rheswm un arall dros wneud y cais. Ac ebe Tylwyth y ddwy gadwen, “Cei di sydd a chyfeillion yn y llys, a thithau sydd yn gwybod y ffordd, fynd gyda’ch gilydd. Bydd cyfeillion yn y llys, a gwybod y ffordd, yn hwylustod i chwi gael eich neges yn ddiymdroi. Arhoswn ninnau amdanoch o gwmpas y llecyn yma.”

XI. Tylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a’r Tylwyth Teg

Pan yr oedd Tylwyth y ddwy gadwen yn llefaru y geiriau hyn, yr oedd Hywel a’r Tylwyth Chwim yn prysur nesau, er yn ddiarwybod iddynt en hunain, at goeden y rhaffau. Yn ffodus i Hywel, yr oedd y braw a’r pryder a’u meddianent yn peri iddynt fod yn fwy esgeulus ohono ef, a gadawsant iddo grwydro ychydig lathenni oddiwrthynt, ond nid yn hollol o’u golwg, ac yr oedd yntau wedi disgyblu ei lygaid a’i ysgogiadau i’r fath raddau nes gwneud ei hunan bron mor chwim â hwythau. Yn wir, llwyddai i gael y blaen arnynt heibio i bob trofa, gryfed oedd ei awydd am gael dod o hyd i’r rhaffau ei hunan. Ac o’r diwedd, wedi hir chwilio a chraffu, y foment yr aeth heibio rhyw dwmpath o ddrain, gwelai y rhaffau yn gorwedd yn daclus gyda’i gilydd wrth fôn y goeden. Safodd yn syth i fyny â’i galon yn curo fel calon aderyn bach newydd ei ddal, ac edrychodd yn ddyfal i gyfeiriad arall. Gyda’u craffter arferol, sylwodd y Tylwyth Chwim ar amrantiad arno yn syllu, a gofynnodd amryw ohonynt yn gynhyrfus,—“Beth weli di?” Ac ebe Hywel yr un mor gynhyrfus gan gyfeirio â’i fys,—“Beth sydd ar lawr wrth fôn y goeden acw?” Gan ei fod yn dalach na hwy, tybient ei fod yn gallu gweled rhywbeth oedd allan o’u golwg, ac ymaith â hwy ar draws ei gilydd at y goeden, a ffwrdd a Hywel am y rhaffau, gan eu cipio i fyny a’u gwthio i’w fynwes yn gynt nag y gellir ei ddisgrifio, ac yna fel saeth ar ôl y Tylwyth Chwim, gan gymryd arno gydofidio â hwy, pan ganfyddodd ei fod wedi gwneud camgymeriad, ac nad oedd hanes o’r rhaffau.

Erbyn hyn yr oedd y ddau anfonwyd gan Dylwyth y ddwy gadwen yn neshau at derfynau gwlad y Tylwyth Teg, ac ebe’r un oedd yn gwybod y ffordd yno,—“Yr ydym o fewn ychydig i gyrraedd pen ein siwrne. Wyt ti’n dechreu arogli arogl y blodau sy’n tyfu yng ngerddi y Tylwyth Teg?”

“Ydwyf, ac y mae cystal a gorffwys i mi.”

“Ac i minnau. Ond nid yw hyn yn rhyfedd. Y mae y blodau cryfaf eu harogl wedi eu plannu ar fin y terfynau, er mwyn i’r rhai fydd yn teithio heibio gael teimlo yn llai blinedig. A diau eu bod yn cyrraedd eu hamcan. Y mae pob cam wyf fi yn ei roddi yn fy ngwneud yn fwy ysgafndroed.”

“Felly finnau. Ond dyna sy’n rhyfedd, clywais nas gall y Tylwyth Chwim oddef yr arogl; ac na ddaw yr un ohonynt yn agos iddo. Gwnant bopeth er ei osgoi.”

“Clywaist y gwir. Ond nis gall neb ond hwy eu hunain gynnal y sawyr afiach sydd yn llenwi’r awyr o gwmpas porth eu llys hwy.”

“Hawdd gennyf gredu hynny. Diameu ei fod fel popeth arall sy’n perthyn iddynt. Ond dywed i mi, pa goed yw y rhai acw sy’n disgleirio cymaint yng ngoleu’r lloer?”

“Dacw y coed arian. Tu ôl iddynt y mae y porth. Gad i ni redeg atynt, gwelaf y dail yn ysgwyd ac yn sisial fel y byddant pan y bydd y Tylwyth Teg yn mynd heibio. Efallai y cyrhaeddwn y porth ar unwaith a fy nghyfeillion, Tylwyth y gwlith.”

Ond er cyflymu eu camrau nid ydynt yn gallu cyrraedd hyd nes yr oedd y rhan olaf o’r Tylwyth Teg wedi mynd drwy y porth. Ond cawsant groeso cynnes gan y rhai oedd yn ei wylio, a llecyn esmwyth a dymunol i eistedd yng nghanol y blodau a’i ffurfiai, blodau o liw coch, neu yn fwy cywir, o bob amrywiaeth sydd yn y lliw coch, nes gwneud y porth edrych fel y bydd yr awyr o gwmpas yr haul pan y machluda ar noson deg. Ac wedi clywed eu neges, y mae y rhai oedd yn gwylio yn anfon am Dylwyth y gwlith atynt. Fel yr oeddynt yn aros ac yn mawrygu y fraint o gael dod i le mor hyfryd, dechreua rhywun ganu megis yn y pellter tu mewn i’r llys. Ac fel y neshai y canwr at y porth, meddai un wrth y llall,—

“Dyna’r gân fydd ein harweinydd yn ganu.”

“Ie, ond pwy fuasai’n disgwyl clywed cân a chymaint o’r lleddf ynddi mewn lle mor hyfryd. Nid yw mor syn gen i iddi gael ei chanu tu ôl i’r ogof risial, ymhell o’r llys prydferth yma.”

“Nac ydyw, ond os mai cân o hiraeth ydyw fel y clywsom, feallai——”

Cyn iddo gael hamdden i orffen yr hyn fwriadai ddweyd, y mae y gân yn tewi a’r canwr yn dod i mewn i’r porth, a phan y gwelodd hwy daeth ar redeg atynt gan ofyn,—

“A ydych wedi dod ar neges oddiwrth Dylwyth y ddwy gadwen?”

Ac er bod tinc o bryder yn ei llais, yr oedd mor llawn o fiwsig bron a phan y canai, ychwanegodd,—

“Dywedwch bopeth a wyddoch amdano wrthyf.”

Yna y maent hwythau, wedi eu cymell fel hyn, yn adrodd yn fanwl holl hanes Tylwyth y ddwy gadwen, gan ymhelaethu ar ei ymdrechion i gael Hywel o afael y Tylwyth Chwim, ac i groesi eu cynlluniau, ac yn diweddu gyda dweyd eu neges ym Mhorth y Tylwyth Teg. Wedi gwrando yn astud ar yr hyn ddywedent y mae hithau yn ateb fel hyn,—

“Mae eich geiriau yn felus iawn i mi. O hyn allan ’rwyf am obeithio y bydd i Dylwyth y ddwy gadwen lwyddo yn ei waith ac ennill ffafr ein brenhines yn ôl. Ac yn awr ’rwyf am fynd ati ac adrodd wrthi yr hyn glywais gennych. Nid wyf yn ameu wedi iddi ei glywed, nad anfona rywbeth i’w gynorthwyo yn ei waith. Nis gwn i ddim am wisg y Tylwyth Chwim, ond fe ddaw Tylwyth y gwlith atoch gyda hyn, a chewch wybod bopeth yn ei chylch ganddynt hwy. Deuaf finnau yn ôl cyn bo hir; arhoswch amdanaf.” A chyda dweyd y geiriau yma prysura’n ôl i’r llys, ac yn fuan wedi hynny cyrhaedda Tylwyth y gwlith y porth. Wedi iddynt yn serchog gyfarch Tylwyth y Coed a chael gwybod eu neges, hysbysant ef o bob cyfrinion a berthynai i wisg y Tylwyth Chwim, ac yn eu sicrhau y gallent yn hawdd orfodi Hywel i’w gwisgo. Pan yn diolch yn gynnes iddynt am eu parodrwydd i roi gwybodaeth iddynt, y mae y Tylwyth Teg yn dod yn ôl i’r porth ac yn ei llaw flodyn mawr melyn, melyn, mor danbaid nes ymddangos fel blodyn o aur, ac meddai,—

“Mae ein brenhines ar ôl clywed hanes Tylwyth y ddwy gadwen wedi llawenhau yn fawr, ac yn gofyn i chwi fynd a’r blodyn yma iddo i’w osod yng nghanol y tusw dail ar ben ei wialen. Pan wêl y blodyn yn cau, bydd hynny yn arwydd iddo ei fod yn ymyl y Tylwyth Chwim, ond pan egyr y blodyn yn llawn, gall fod yn sicr y bydd pellter mawr rhyngddynt. Hefyd, yr wyf wedi cael caniatad i ddweyd wrthych fod Caradog wedi dod yn ôl i’r goedwig. Mae amryw ohonom wedi ei weled lawer gwaith, ac edrycha fel pe eto ar yr un neges. Aiff drwy y coed gan syllu ar eu brigau, ond nid ydym wedi cael cyfle i’w helpu hyd yn hyn. Y mae gennyf un peth arall i’ch hysbysu; y mae cadwen Caradog yn ddiogel gennyf, ac yr wyf yn disgwyl cael ei chyflwyno i’w pherchennog cyn bo hir.”

“Diolch yn fawr i chwi am eich caredigrwydd,” ebe Tylwyth y Coed, “ac am y blodyn, bydd hwn o help dirfawr i ni, a diolch i chwi hefyd am yr hyn ddywedsoch am Garadog. Mae ein harweinydd wedi pryderu llawer yn ei gylch wedi iddo gael ei gario dros y gamfa, ac wedi gofidio nid ychydig wrth feddwl y gallai y gadwen fod ym meddiant y Tylwyth Chwim. Bydd clywed hyn yn newydd wrth fodd ei galon, ac er mor hyfryd ydyw yma, rhaid i ni yn awr brysuro ato.”

“Na! na!” ebe y Tylwyth Teg, “arhoswch i chwi gael profi ein mêl. Mae o’r math melysaf.”

“Mae’n sicr ei fod. Ond nis gallwn oedi moment. Mae ein Tylwyth yn aros yn bryderus amdanom, ac yn methu trefnu na symud cyn cael canlyniad ein hymweliad ni atoch. Rhaid mynd, ffarwel.”

Dilynodd y Tylwyth Teg hwy i’r fynedfa i’r porth, ac yn sŵn eu cân, y maent hwythau yn rhedeg am y goedwig. Ond er rhedeg, nid oeddynt wedi cyrraedd y gweddill o’r Tylwyth cyn iddynt ddechreu anesmwytho yn eu cylch, ac i nifer ohonynt gychwyn i’w cyfarfod. Ond pan welsant y blodyn, a chlywed pwy oedd wedi ei anfon, ac i ba beth, ac hefyd pan adroddwyd wrthynt yr oll a glywodd eu cyfeillion yn y llys, rhoddodd y pryder le i ysgafnder a hoen. Ac nid y newydd lleiaf ei werth i Dylwyth y ddwy gadwen oedd clywed fod cadwen Caradog yn ddiogel, ei fod yntau yn y goedwig, a bod yn bosibl eto gael cyfle i brofi iddo gywirdeb ei dylwyth a’r Tylwyth Teg.

XII. Ffoi! Ffoi!! I ba le?

Pan yr oedd llawenydd yn cynhyddu a gobaith yn cryfhau ymhlith Tylwyth y Coed, yr oedd anobaith a braw bron llethu y Tylwyth Chwim yn eu hymchwil am y rhaffau, ac fel y parhaent i fethu dod o hyd iddynt, sylwodd Hywel fod eu hwynebau yn mynd yn hagr, a’u geiriau yn frathog, ac edrychent, nid yn unig fel pe buasent yn ei gasau ef, ond yn casau ei gilydd hefyd lawn cymaint, ac elent o gwmpas y coed a’r gwrychoedd gan gwynfan a bygwth, ac edliw y naill i’r llall rhyw weithredoedd na chlywsai Hywel erioed sôn amdanynt, nes codi ofn ac arswyd arno, a pheri i’w ddymuniad am gael ei waredu oddiwrthynt fynd yn fwy, fwy angerddol. Os byddai iddynt ddod ar draws mwsog prydferthach na’i gilydd, wedi sathru arno byddent yn ei gicio yma ac acw. Rhwygent ddail y coed, gan falu y brigau ddisgynnai o fewn eu cyrraedd. Yr oeddynt mewn cynddaredd, ac ofnai hyd at welwi iddynt ymosod arno a thynnu y dillad oddi amdano a darganfod y rhaffau. Credai y buasai’r canlyniad yn rhywbeth rhy arswydus iddo geisio ei ddirnad. I ychwanegu at eu trueni, tybiodd un ohonynt ei fod wedi clywed sŵn tusw dail Tylwyth y Coed yn yr awyr, a thystiai ei fod yn sicr fod mintai fawr ohonynt gyda’i gilydd. Ac ebai’r arweinydd,—“Nid wyf fi yn malio gronyn yn Nhylwyth y Coed,” ond ychwanegodd, ga’n ostwng ei lais, “os daw cymaint ag un ohonynt o hyd i’r rhaffau, bydd ar ben arnom.”

“O, Dylwyth y Coed,” ebai Hywel wrtho ei hunan, “brysiwch, brysiwch ataf.”

Ymhen ychydig ar ôl hyn, ebai un o’r lleill,—“Nid yw Hywel fel pe’n chwilio â’i holl egni.”

“Nac ydyw,” ebai un arall, “mae cael cyfle i ffoi oddiwrthym o fwy o bwys ganddo na dod o hyd i’r rhaffau.”

“Cyfle i ffoi, yn wir,” ebai’r arweinydd, “pan welwch ddail poethion eto dangoswch hwynt i mi, caiff orwedd yn eu canol, bydd yn dda ganddo gael chwilio o ddifrif pan y caiff godi ohonynt.”

“Bydd,” ebai un o’r lleill, “ond bydd yn rhaid iddo dynnu ein dillad ni oddi amdano cyn y gorwedda yn y dail poethion.”

“Gofalaf fi am bopeth felly,” ebai’r arweinydd, “chwilia di am y dail poethion.”

“Ho, chwilio am ddail poethion yn awr, beth am y rhaffau?”

“Iâ, beth am y rhaffau?” gofynnai un o’r lleill mewn tôn sarhaus.

“Chwiliwch am y rhaffau a’r dail poethion, y fi ydyw’r arweinydd.”

“Arweinydd, yn wir,” ebai y mwyaf beiddgar ohonynt, “rydym wedi blino arnat. Y mae y rhaffau yn ein meddiant ni cyn i ti groesi trothwy y llys am dy anturiaeth gyntaf, ac y mae pob un ohonom yn fwy atebol i fod yn arweinydd na thi.”

Gyda’r cyfrwysder oedd yn nodweddiadol ohono, ni wnaeth yr arweinydd un sylw ar hyn, ond galwodd yn uchel,—“Dacw ddail poethion. Rhuthrwch ar Hywel a diosgwch y wisg oddi amdano.” A dyna Hywel, er nas gallai ganfod dail poethion yn unman yn cael ei amgylchynnu ganddynt, a’u dwylo teneuon fel dannedd cŵn yn gafael ynddo, a’i obaith am gael dianc fel pe ar ddiffoddi. Ond y foment nesaf dyna rhyw berarogl hyfryd yn llenwi’r awyr, a dacw bob llaw yn disgyn fel pe wedi diffrwytho, a’r Tylwyth Chwim gyda’i gilydd yn ysgrechian,—“Blodau’r Tylwyth Teg! Blodau’r Tylwyth Teg!” A chyda hynny tybiodd Hywel fod dail y coed yn rhedeg amdano, nis gallai, gan mor ddirybudd y cyfnewidiad o’i gwmpas, amgyffred fod tyrfa o Dylwyth y Coed mewn gwirionedd wedi cyrraedd gyda’u ffyn a’u tusw dail. Ac er na chymerodd hyn ond dau eiliad neu dri, gwelodd Hywel y tro yma ei gyfle i ddianc, a dringodd fel wiwer i fyny y goeden nesaf ato. Pe bai wedi oedi cymaint ac i gymryd un anadl, buasai yn rhy ddiweddar. Yr oedd dwylo y Tylwyth Chwim wedi eu hestyn amdano, i’w cipio gyda hwy, ond yr oeddynt elliad yn rhy hwyr. Rhaid oedd iddynt redeg heb gael cymaint ag un golwg ar Hywel ym mhen y goeden. A rhedeg wnaethant fel arfer gyda chyflymder teilwng o’u teitl a Thylwyth y Coed yn eu hymlid. A Hywel o ben y goeden yn eu gwylio ac yn ceisio dyfalu beth oedd y blodyn mawr, er yn gaeêdig, oedd fel llusern oleu yng nghanol tusw dail un ohonynt. Gan fod ei holl feddwl ar eu gwylio, nid oedd wedi sylwi fod rhai ohonynt wrth fôn y goeden hyd nes y clywodd un yn dweyd fel hyn,—“Mae un yn ymguddio yn y goeden yma.” Ac ebai un arall gydag awdurdod yn ei lais,—“Tyrd i lawr neu bydd dy gosb yn llawer trymach.” Ac ebai Hywel gan brysuro atynt,—“Deuaf gyda phleser, rwyf yn hiraethu am eich gweled.” Ond er eistedd yn dawel ar bentwr o ddail fel yr oeddynt yn gorchymyn iddo a gwenu’n siriol arnynt, deallodd yn fuan nad oeddynt yn gweled ynddo ond un o’u gelynion. Ac ebai un ohonynt,—“Gelli edrych yn garedig a dymunol, ond nid ydym heb adnabod dy dwyll a dy gyfrwyster.”

“Nid yw yn syn gennyf,” ebai Hywel, “eich bod yn fy ameu, ond os caf weld Tylwyth y ddwy gadwen, bydd popeth yn iawn.” Ar hyn maent yn mynd o’r neilltu ac yn sisial gyda’i gilydd, ac yna yn dod yn ôl ac yn dweyd,—“Daw Tylwyth y ddwy gadwen yma gyda hyn, ac yna fel ’rwyt yn dweyd bydd popeth yn iawn. Gofala ef na chaiff yr un ohonoch ddyrysu rhagor ar ei gynlluniau.”

“Mae’n amlwg,” ebai Hywel wrtho ei hunan, “nad ydynt yn fy nghredu, ond waeth i mi dewi. ’Rwyf yn llawer mwy hapus yn awr nac y bum ers pan wyf yn y goedwig.”

Ar ôl ychydig yn rhagor o sibrwd gwelai ddau ohonynt yn mynd i’r un cyfeiriad ac y rhedodd y lleill, a chlywai un o’r rhai oedd yn aros yn dweyd,—“Goreu po gyntaf i Dylwyth y ddwy gadwen gael gwybod amdano.”

“Iê’n wir,” meddyliai Hywel, gan graffu i’r pellter a disgwyl yn ddyfal am weld y tusw dail yn dychwelyd. Ac yn wir, heb lawer o oedi, dacw y blodyn melyn i’r golwg, erbyn hyn wedi agor yn llawn, ac fel yr oeddynt yn dod yn nes, ac yn ddigon agos iddo adnabod yr un oedd yn ei gario, yn ei lawenydd neidiodd i fyny a rhedodd i’w gyfarfod gan waeddi,—“A ydych yn fy nghofio, ’rwyf wedi hiraethu llawer amdanoch.”

Ac ebai yntau yr un mor llawen,—“O, Hywel, dyma ni wedi cyfarfod unwaith eto.” Yr oedd y gweddill o’r tylwyth wedi sefyll ac yn edrych arnynt yn syn, ac ebai Tylwyth y ddwy gadwen,—“Tra y bydd Hywel a minnau yn siarad wrth y goeden acw, caiff y fintai oedd dan fy ngofal i adrodd i’r gweddill ohonoch hanes Hywel, ac egluro paham y mae gwisg y gelyn amdano.”

A chychwynnodd â Hywel yn ei ddilyn i eistedd dan y goeden, lle y bu Hywel yn ymguddio. Ac yn y fan honno y mae’n cael yr hanes fel yr oedd Tylwyth y Coed wedi bod yn chwilio amdano, ac mor ofidus oeddynt eu bod wedi ymosod arno â’u tusw dail. “Ond,” meddai, “nid oes gan neb hawl i wisgo y gadwen ond y ni, ac nid oedd gen innau hawl i’w rhoi i chwi heb ganiatâd y llys. Ond dyna’r unig ffordd oedd gen i i’ch helpu ar y pryd, ac ni feddyliais y buasech yn cyfarfod y tylwyth cyn i mi gael amser i’w hysbysu amdanoch. ’Roeddynt yn meddwl mai wedi eu lladrata yr oeddych er mwyn plesio y Tylwyth Chwim. Nid oes derfyn ar eu hystrywiau.”

“Nac oes,” ebai Hywel, “ac nid yw yn syn gennyf erbyn hyn eu bod wedi ymosod arnaf os oeddynt yn meddwl fy mod yn perthyn iddynt hwy.” Yna dechreuodd adrodd ei hanes tra yn eu cwmni, ac fel yr oeddynt wedi ei drin, ac mor ffodus oedd iddynt anghofio y rhaffau a gorfod troi yn ôl i’r goedwig i chwilio amdanynt, ac fel yr oedd yntau wedi dod o hyd iddynt a’u cuddio yn ei fynwes. Pan ddechreuodd sôn am y rhaffau sylwodd fod ei gydymaith fel pe’n gweu drwyddo gan gyffro, ac nid oedd ond prin wedi crybwyll ei fod wedi eu cuddio, nad oedd ar ei draed ac yn gofyn,—“A ydynt yn eich mynwes yn awr?”

“Ydynt,” ebai Hywel, gan roddi ei law arnynt, “dyma hwy.”

“Dylwyth y Coed,” ebai yntau ar uchaf ei lais, “deuwch yma.”

A dyna hwy yn dod ar redeg o bob congl a chilfach, ac yn sefyll yn llu o’u cwmpas. Ac meddai.—“Beth ddyliech chwi? Mae rhaffau y Tylwyth Chwim ym meddiant Hywel.”

Sôn am deimlo yn llawen, ni welodd Hywel erioed y fath arwyddion o lawenydd. Yr oeddynt yn dawnsio, yn chwerthin, yn cofleidio ei gilydd, yn chwifio eu tusw dail, ac fel pe wedi colli pob rheolaeth arnynt eu hunain gan yr hyfrydwch barodd clywed fod y rhaffau ganddo. Ac yr oedd yntau wrth ei fodd yn gwrando arnynt, yr oedd eu lleisiau fel miwsig i’w glustiau. Ond y foment y galwodd Tylwyth y ddwy gadwen am osteg, sâ pob un yn ei le fel delw, dechreua yntau siarad mewn distawrwydd perffaith,—“Mae Hywel wedi gwneud y gymwynas fwyaf â ni drwy gadw y rhaffau, ac os cyflwyna hwy i mi, gallwn atal y Tylwyth Chwim rhag dod byth i’r goedwig yma eto.”

“Mae i chwi groesaw ohonynt,” ebai Hywel, “gan eu hestyn iddo. Ond sut y gallwch eu hatal â’u rhaffau hwy eu hunain?”

“Drwy eu plethu ar draws y fynedfa i’w porth, ac ni ddaw yr un ohonynt drwodd ar ôl hynny. A ddowch chwi gyda ni i wneud y gwaith yn awr heb golli amser?”

Pan ddeallodd fod yn bosibl i’r rhaffau gyflawni y fath orchestwaith, atebodd yn ddioed,—“Deuaf gyda phleser.” Ond cyn cychwyn, teimlai fod yn rhaid iddo gael un dymuniad, a gofynnodd, “A wnewch chwi fod mor garedig a thynnu y wisg boenus yma oddi amdanaf a’i rhwygo yn gareiau?” Nid oedd eisiau ail ofyn, yr oedd hyn yn waith wrth eu bodd, yn gynt nag y gellir dweyd nid oedd y wisg ond pentwr o edau goch ar y llawr. Yna ffwrdd â hwy am y fynedfa i lys y Tylwyth Chwim, gan alw ar y ffordd am Dylwyth y Goeden Onnen. Ac wedi cyrraedd yno y maent yn dechreu plethu y rhaffau, heb yngan gair wrth ei gilydd, a Hywel yn sefyll i edrych arnynt, ac i ryfeddu at eu dull cyflym a chywrain o weithio. Wedi iddynt orffen y mae Tylwyth y ddwy gadwen yn mynd i ben carreg wen fawr, oedd yn ymyl, ac meddai,—“ ’Rwyf wedi egluro i Hywel paham y curodd rhai ohonoch ef, ac y mae wedi deall ac yn barod i gydnabod nad oedd ond hynny i’w ddisgwyl. Ond yn awr, dyma ni drwy ei gynhorthwy wedi ennill ein rhyddid am y tro cyntaf erioed. Pa fodd yr ydym yn mynd i’w wobrwyo?” Ac ebai y Tylwyth gyda’i gilydd,—“Ei arwain i’n llys a’i groesawu yno.” Ac ebai Hywel gyda brys cyn iddynt ychwanegu gair ymhellach,—“Diolch i chwi am eich caredigrwydd yn fy ngwahodd i’ch llys, ond y wobr oreu ellwch roddi i mi fydd trwsio fy nillad, a fy hebrwng drwy y goedwig a thros y gamfa.”

Ac ebai Tylwyth y ddwy gadwen,—“Gan mai dyna dy ddymuniad, yr ydym yn sior o dy arwain dros y gamfa, ond nis gallwn drwsio dy ddillad. Y Tylwyth Teg all wneud hynny, ac fe wnant gyda phleser wedi clywed yr hyn wyt wedi wneud i ni. Af atynt heb ymdroi i ofyn iddynt, caiff un ran o’r fintai yma ddod gyda mi, a chaiff y rhan arall fynd gyda thithau. Ewch, ac aroswch amdanom ynghanol y goedwig.” Yn y fan honno y mae Tylwyth y Coed yn gwahanu, a Hywel a’r rhai oedd gyd ag ef cyn hir yn cyrraedd canol y goedwig. Ac wedi eistedd yn y llecyn hwnnw, ebai un ohonynt,—“Mae’n dda gen i feddwl y caiff Tylwyth y ddwy gadwen ei groesawu’n ôl i ffafr y Tylwyth Teg.”

“Mae’n dda gen innau,” ebai un arall, “gan fod rhai ohonynt yn hiraethu amdano. A chawn ninnau i gyd heno ein gwahodd i’w llys i lawenhau gyda’n gilydd fod y goedwig yn rhydd.” Ar hyn y mae un ohonynt oedd wedi dringo i ben un o’r coed yn galw,—“Hywel, dring i fyny yma. Gwelaf dy gyfaill Caradog yn y pellter yn troi tuag adref, a baich o wiail helyg ar ei gefn.”

Fel wiwer yr oedd Hywel i fyny yu edrych ar Caradog â’i faich gwiail yn mynd heibio y gwrychoedd a’r coed. A sylwodd nad rhyw wiail cyffredin oeddynt, ond gwiail oedd yn disgleirio fel arian, ac yr oedd cannoedd ohonynt yn ei faich, ac eto nid oedd y baich yn llethu Caradog, elai ymlaen yn heini ac ysgafn ei droed. “O wiail prydferth,” ebai, “buasai un o’r rhai acw yn werthfawr. Ym mha le y cafodd hwynt, tybed?” Ac ebai ei gydymaith,—“Clywais y Tylwyth Teg yn dweyd eu bod yn disgwyl cyfle i’w helpu, a gwelaf fod eu dymuniad wedi ei roddi iddynt. Ni fuasai Caradog yn gallu dod o hyd iddynt ei hunan onibai fod y Tylwyth Teg, drwy rhyw ffordd gyfrin, wedi ei arwain atynt. Bydd ei dad yn llawer mwy cyfoethog nag y bu erioed o’r blaen, ar ôl gwerthu y basgedi wna â’r gwiail yna.”

“ ’Roedd o’n edrych yn hynod o hapus,” meddai Hywel, gan ddisgyn oddiar y goeden, wedi dal i’w wylio nes yr aeth o’r golwg.

“Mi fyddaf finnau yn hapus pan gaf fynd dros y gamfa. A fydd y Tylwyth Teg yn hir eto cyn dod yma?”

“Na fyddant; mae’n ddiameu eu bod yn barod wedi gadael eu llys ac ar eu taith atom.”

“A yw yn bosibl i mi gael eu gwylio tra byddant yn trwsio fy nillad?”

“Nac ydyw. Rhaid i chwi fynd i gysgu gynted ag y clywn eu sŵn yn neshau. Ond wedi i chwi ddeffro, bydd eich dillad mor gyfan a phan oeddych yn cychwyn oddi cartref yn y bore, a Thylwyth y Coed yma i’ch arwain tros y gamfa. Ust! dyna sŵn eu miwsig yn y pellter. Gorweddwch a chauwch eich llygaid.”

Ufuddhaodd Hywel yn ddiymdroi, a dyna lle ’roedd yn clustfeinio am y miwsig, ond er gwrando a gwrando, nis gallai glywed yr un nodyn ohono. A dyna sŵn troed yn rhywle, a’r sŵn yn dod yn nes, nes, yn ddigon agos iddo glywed y brigau mân yn clecian oddi tano. Ac ebai Hywel wrtho ei hunan,—“Pwy fuasai’n meddwl fod troed y Tylwyth Teg mor drwm. Ond hwyrach fod yna dyrfa ohonynt.” Ar hynny dyna rhyw law yn gafael yn ei ysgwydd ac yn ei ysgwyd. Ac ebai Hywel drachefn,—“A phwy fuasai’n meddwl fod ganddynt law mor galed?” Ust! dyna rhyw lais yn galw arno,—“Hywel! Hywel!”

“Wel,” meddai, “dyna lais yr un fath yn union a llais tada, mae’n rhaid i mi gael agor fy llygaid.” Agorodd hwy, a gwelodd ei dad yn sefyll yn ei ymyl. Wedi rhyw eiliad o syllu’n syn arno, neidiodd i fyny a chydiodd yn dyn yn ei law, ac meddai ei dad,—“Beth wnaeth i ti ddod y ffordd hyn?”

“Meddwl y buaswn i ’n medru dod adref yn gynt i gael dod i’ch cyfarfod, tada.”

“Ac yn lle hynny mi êst i gysgu yn y fan hyn. Wel, tyrd i ni gael mynd gynta medrwn i ni gael cyrraedd y tŷ o flaen dy nain. Wedi mi fynd yno i chwilio amdanat, daeth yn ôl gyda mi ond daliodd hi i fynd ar hyd y ffordd. Fedra hi ddim meddwl am fynd i’w gwely heno heb gael gwybod fydda ti wedi cyrraedd.” Ac wrth wrando ar ei dad yn siarad, ac edrych yn ei lygaid caredig, anghofiodd Hywel bopeth am y Tylwyth Chwim, Tylwyth y Coed, a’r Tylwyth Teg. Yn wir, ni chofiodd ddim amdanynt, hyd yn oed pan yn cael ei gario gan ei dad dros y gamfa.


CARTREF SANTA CLOS

“BETH WYT YN FEDDWL O FY NGHARTREF?”

XIII. Cartref Santa Clôs

Rhoddai Bob, fel y rhan fwyaf o blant pan y nesha y Nadolig, gryn lawer o le yn ei feddwl i Santa Clôs. Holai ei dad a’i fam yn ei gylch, a bu fwy nag unwaith mewn perygl o gael ei anfon i’w wely yn gynt na’r adeg arferol am ei fod yn ôl geiriau ei fam,—“ddigon a diflasu pawb yn holi ac yn holi o hyd ac o hyd.” Syllai hefyd lawer i ffenestri siopau teganau y pentref, gan geisio penderfynu wrtho ei hunan pa degan a hoffai ef ei gael yn ei hosan fore’r Nadolig; neu pa nifer ohonynt tybed ellid eu gwthio i mewn iddi heb i’r hosan na’r teganau fod yn waeth. Meddyliai hefyd weithiau mor ddifyr fuasai cael golwg ar Santa Clôs wrth ei waith, a chael rhyw syniad am faint y sach oedd ar ei gefn a nifer y teganau o’i mewn. Ond er dyfalu llawer, a gofyn iddo ei hunan, ac i eraill, lu o gwestiynau amdano, nid oedd y syniad erioed wedi dod i’w feddwl i’w gymell i ofyn,—“Pa le y mae Santa Clôs yn byw,” hyd nes yr aeth i chware ar ôl tê y prynhawn o fewn dau ddiwrnod i’r Nadolig at Benni Stryd y Cefn. Yr oedd yn ddiwrnod oer a gwlyb, ac oherwydd hynny galwodd mam Benni arnynt i’r tŷ, a rhoddodd ganiatâd iddynt i chware yn y gegin ar yr amod nad oeddynt i wneud twrw, nac i wneud llanast. Nid oeddynt yn ddieithr i’r amod yma, a dysgodd profiad hwy hefyd cyn hyn mai ffolineb fyddai ymddwyn yn ddiystyr o’r siars. Fel yr oedd Bob wedi cydnabod o’r blaen,—“nid mam pawb fasa yn gadael i blant chware yn thŷ hi,” ac felly rhoddodd y ddau eu pennau ynghyd, a cheisiasant feddwl am y chwareuon â lleiaf o stwr yn perthyn iddynt. Ond er rhoddi prawf ar ddau neu dri, gwaith pur anodd oedd taro ar chware nad oedd rhyw gymaint o dwrf yn perthyn iddo, er cystal ydoedd Benni am ddyfeisio chware newydd. Ond pan oeddynt ar roddi i fyny yr ymdrech, a Bob yn dechreu meddwl y byddai’n well iddo fynd adref, dyna mam Benni yn cofio yn sydyn fod yn rhaid iddi fynd allan i neges. Yn bur ddiymdroi, y mae’n gwisgo ei chôt a’i het ac yn cychwyn. Gynted yr oedd trwy y drws,—“ ’Rwan,” ebai Benni, “beth gawn ni chware?”

“ ’Dwn i ddim, meddwl di am rywbeth,” ebai Bob.

Eisteddodd Benni ar y gadair siglo, ac wedi siglo ei hunan am ryw ddau eiliad neu dri, fel pe bai yn disgwyl i hynny fywiogi ei feddwl, meddai yn sydyn,—“Wyddost ti beth wnawn ni? Mi wnawn ni chware Santa Clôs. Mi af fi yn Santa Clôs, a mi gei ditha gysgu yn y setl, a hongian dy hosan wrth ei throed, a wedyn mi rof finna rywbeth yn dy hosan di. Mae gen mam ddigon o bapur a llinyn. A mi hongiwn ni y sanne ym mhob man gwna nhw sefyll, a mi wnawn bob math o barseli.”

“Reit dda, Benni,” ebai Bob. “Oes gen ti hen sach i gario y parseli ar dy gefn?”

“Oes, a digon o wlan gwyn yn y cwpwrdd i wneud gwallt a locsus, a mi gymeraf fenthyg shôl goch mam i wneud mantell.”

Ac ar unwaith dacw y paratoadau yn dechreu, a phob munud yn bwrlymu drosodd o ddifyrrwch a hwyl. Ac yn fuan iawn yr oedd yr hosanau yn hongiwn yma ac acw yn y gegin, a Santa Clôs yn barod i gychwyn ar ei daith, a Bob yn gorwedd â’i lygaid yng nghau ar y setl, ond nid mor gaeedig fel nad oedd yn gallu gwylio symudiadau Santa Clôs, er mawr ddifyrrwch iddo ei hunan. Yr hosan gyntaf i gael ei llenwi oedd yr un a hongiai ar ddwrn y popty, ac ebai Santa Clôs:

“Dyma hosan Lisi Meri. Mae gen i barsel go fawr iddi hi,” gan wthio i’r hosan un o’r parseli mwyaf oedd yn ei sach. Ac felly gan enwi perchenogion yr hosanau yr aeth o hosan i hosan, gan roddi rhywbeth ym mhob un. Ac wedi gwthio dau barsel i hosan Bob, aeth at yr hosan olaf a hongiai wrth bost y grisiau, a chan afael ynddi, meddai, gan ysgwyd ei ben:

“Dyma hosan Benni Stryd y Cefn. Ond ’does yna ddim presant i roi yn hon. Mae’r presant olaf wedi mynd.”

Wrth glywed hyn, er wedi cael gorchymyn pendant i beidio symud hyd amser neilltuol, cododd Bob i fyny yn syth, ac meddai,—

“Tydi hynna ddim yn deg, mae’n rhaid cael presant i roi yn dy hosan di, beth bynnag, Benni.”

“Na,” ebai Benni, “fydda i byth yn cael. Mi hongiais i fy hosan y Nadolig diweddaf, a Nadolig cynt, a ches i ddim byd. Tydw i ddim am ’i hongian hi o gwbl y tro yma. Well gen i gweld hi ar y gadair fel bob bore arall, nac edrych arni yn hongian yn wâg wrth droed y gwely.”

“Wel, pam na chei di beth ynddi?” gofynnai Bob, gan edrych fel pe bai, ac fel yr oedd yn wir, wedi cyfarfod y broblem fwyaf dyrys gyfarfyddodd erioed.

“ ’Dwn i ddim,” atebai Benni, “Mae mam yn meddwl mai am fod tŷ ni ar ben y rhes, a bod Santa Clôs wedi rhannu popeth cyn cyrraedd yma.”

“Wel, pam na wnaiff o ddechreu yn y pen yma weithiau?”

“Ella mai o’r ffordd arall mae o’n dwad.”

Wedi moment o ystyried, ebai Bob drachefn,—“Wyddost ti lle mae o’n byw, Benni?”

“Na wn, wir. Chlywais i erioed.”

Ar hyn daeth mam Benni i’r tŷ, ac wedi dotio at ei fedrusrwydd yn gwisgo ei hunan mor debyg i Santa Clôs, meddai,—“Ond tyn amdanat, ’rwan, i ti gael swper a mynd i dy wely, ac ewch chitha adre, Bob, cyn iddi fynd yn dywyll ac i’ch mam fynd yn anesmwyth.”

Ac wedi dweyd “Nos Da” wrth Benni, y mae Bob yn cychwyn am ei gartref, a’r cwestiwn ofynnodd i Benni,—“Ym mhle, tybed, mae Santa Clôs yn byw?” yn llanw ei feddwl ar hyd y ffordd.

“Pe gwyddwn i,” meddai wrtho ei hunan, “mi awn yno bob cam i ofyn iddo roi presant yn hosan Benni.” Toc daeth y syniad i’w feddwl y gallai ei fam fod yn gwybod, a pharodd hyn iddo gyflymu ei gamrau, a chyrhaeddyd y tŷ â’i wynt yn ei ddwrn. Wedi deall bod ei fam yn y gegin fach, y mae’n myned yn syth ati ac yn gofyn heb ragymadrodd o fath yn y byd,—“Mam, lle mae Santa Clôs yn byw?” Gan ei fod, fel y sylwyd eisoes, yn dueddol iawn i holi, a’i fam ar y pryd yn bur brysur ei goruchwylion, oherwydd agosrwydd y Nadolig yn amlhau, meddai wrtho,—“Paid a dechreu holi, da chdi. Bwyta dy swper; mae dy lefrith ar y pentan a’r frechdan ar y bwrdd. Brysia, tyn am dy draed, ’rwyt ti wedi bod allan rhy hwyr o lawer.”

Ac ymaith â hi o’r gegin, a Bob yn galw ar ei hôl, gan ddechreu datod ei esgidiau:

“Lle mae tada?”

“Mae o yn y gegin ffrynt hefo dyn diarth, a chymer ofal nad ei di ddim yno.”

“Dyna dro,” ebai Bob wrtho ei hunan, “fedra i ddim gofyn i tada ’rwan lle mae Santa Clôs yn byw. Ond peth siwr ydi o, mae’n rhaid i mi gael gwybod gan rhywun yfory.” Ac yng nghwmni y penderfyniad yna aeth i fyny y grisiau ac i’w wely, a’r penderfyniad fel pe’n gofalu cadw cwsg ymhell oddiwrtho. Ond pan glywodd ei dad a’i fam yn dod i fyny y grisiau, cauodd ei lygaid a chymerodd arno ei fod yn cysgu ers meityn. Nid oedd am i’w fam ei ddal yn effro, pan y deuai yn ol ei harfer i’w ystafell cyn noswylio. Nid oedd heb wybod mai canlyniad hynny fyddai cael ei ddwrdio yn dost neu ddos o ffisyg. Ond cyn gynted ag yr aeth ei fam i’w ystafell, ac y clywodd hi yn cau y drws ar ei hôl, y mae’n agor ei lygaid eto, a dyna’r un cwestiwn yn mynd ac yn dod trwy ei feddwl, nes ymhen hir a hwyr, wedi i bob sŵn yn y tŷ ddistewi, y mae’n gofyn yn uchel, heb yn wybod bron iddo ei hunan,—“Ym mhle, tybed, mae cartref Santa Clôs?”

Ac ar hynny dyna rhyw lais peraidd yn ateb o’r ochr arall i’r ffenestr,—“Agor y ffenest, mi gei wybod.” Heb oedi cymaint ag eiliad i synnu, rhyfeddu, nac ofni, dacw Bob o’r gwely ac yn agor y ffenestr. Yr oedd y ffenestr ar ffurf drws, ac yn sefyll o’i blaen gwelai gerbyd bychan, isel, di-olwynion, yn cael ei dynnu gan garw mawr corniog. Hefyd, sylwodd fod y cerbyd a’r un oedd ynddo wedi ei guddio yn llwyr â chroen blewog, a chlywai’r un oedd yn y cerbyd yn gofyn,—“Hoffet ti weled cartref Santa Clôs?”

“Hoffwn, yn siwr. ’Rwy’n dymuno yn fawr cael gweld Santa Clôs. Mae arnaf eisio gofyn rhywheth iddo, cyn iddo gychwyn ar ei daith, nos fory.”

“Dyma dy gyfle. Tyrd i mewn i’r cerbyd yma yn ddiymdroi, a chei dy ddymuniad.”

Y funud nesaf yr oedd Bob yn y cerbyd clyd, ac yn cael ei gludo gan y carw yn gynt nac y gwelsai yr un modur yn mynd erioed. Yr oedd fel pe’n hedeg gan fyned dros fynyddoedd o rew ac eira, a’r lluwch fel cymylau o’u cwmpas. Yr oedd yn mynd yn rhy gyflym i Bob allu meddwl o gwbl. Nis gallai ond yn unig syllu o’i flaen. A syllu y bu am amser maith, hyd nes y daethant at fur llydan, uchel, o eira a rhew. Yr oedd y mur mor uchel fel nad oedd modd gweled a amgylchynai rywbeth, ac os y gwnai, pa beth ydoedd. Ond wedi gyrru o gwmpas y mur am beth amser, deuent at borth eang, ac heb arafu o gwbl, â’r cerbyd i mewn drwyddo gan sefyll yn sydyn o fewn rhyw ddwy lath i’r ochr arall iddo, ac o fewn rhyw ddeg llath i gastell mawr, a thyrau uchel arno. Castell wedi ei wneud er syndod i Bob, o galonnau, calonnau bach a chalonnau mawr, ond yr oll ohonynt wedi eu gwneud o aur. Ac er fod Bob, fel y sylwyd, yn synnu ato, cafodd wrth sylwi arno destun i fwy o syndod. Nid oedd y castell wedi ei orffen; yr oedd yn llawn o fylchau. Tra yn rhyfeddu at hyn, dacw Santa Clôs yn dod yn araf drwy un o byrth y castell ac yn nesu ato. Nid oedd modd ei gamgymeryd, yr oedd yn hynod o debyg i aml i ddarlun a welsai Bob ohono, ond yn unig ei fod yn cerdded yn syth, am nad oedd yr un sach ar ei gefn, ac ni theimlai yr un iâs o’i arswyd, yr oedd golwg mor garedig a chamaidd arno. Ac wedi iddo ofyn yn dyner iddo,—“Beth yw dy neges, machgen i?”

Atebodd yntau:

“ ’Rwyf wedi dod yma i ofyn wnewch chwi roi rhywbeth yn hosan Benni Pen y Stryd nos yfory?” Heb ateb gair iddo y mae Santa Clôs yn estyn ei law ac yn ei helpu allan o’r cerbyd, ac yna yn ei arwain yn araf o gwmpas y castell, a Bob yn cael testun ar ôl testun i’w edmygu yn yr adeilad gwych, ond er y cwbl yn methu’n lân â pheidio gresynu a theimlo’n brudd wrth weled yr holl fylchau yn y castell. Ac wedi iddynt ddod yn ôl i’r fan lle y cychwynasant, ebai Santa Clôs wrtho:

“Beth wyt yn feddwl o fy nghartref?”

“Mae’n ardderchog,” ebai Bob, “ond piti fod yna gymaint o fylchau ynddo.”

“A wyt ti wedi sylwi beth yw ei ddefnydd?”

“Do, calonnau bach a mawr.”

“Hoffet ti gael rhoi calon i lenwi un o’r bylchau?”

“Hoffwn yn fawr iawn.”

“Wel, dyma fi’n rhoi cynnig teg i ti. Fe glywais i fod gen ti swllt yn dy ‘Gadw-mi-gei’ gartref at gael pêl droed. A ydyw hynna yn wir?”

“Ydyw,” ebai Bob, gan synnu wrtho ei hunan fod Santa Clôs yn gwybod cymaint o’i hanes.

“O’r goreu. Os wyt ti yn foddlon rhoi y swllt i dy fam a gofyn iddi ei anfon i mi, mi ofala inna fod yna galon yn cael ei rhoi yn un o’r bylchau a bod Benni Pen y Stryd yn cael rhywbeth yn ei hosan nos Nadolig.”

“ ’Rydw i’n foddlon iawn,” ebai Bob. “Mi rof y swllt i mam pen bore fory i’w anfon i chwi, a byddaf yn siwr o fynd i ddweyd wrth Benni am hongian ei hosan.”

“Ie, ond paid a dweyd dim arall wrtho. Paid a sôn am yr hyn wyt wedi ei weled a’i glywed yma.”

Addawodd Bob wneud fel yr oedd Santa Clôs yn dymuno, ac yna, gan ei ddilyn, y mae’n myned at y cerbyd ac yn cael ei gynorthwyo ganddo i mewn iddo, ac meddai Santa Clôs, wedi i Bob ddiolch iddo am ei garedigrwydd yn dangos ei gastell iddo,—“ ’Rwyf yn disgwyl, pan y cei ddod eto, y bydd llawer o’r bylchau wedi eu cau, a phan y bydd pob bwlch yn llawn, ni fydd raid i’r un plentyn hongian ei hosan yn ofer.”

Cyn i Bob gael hamdden i wneud un sylw o hyn, cafodd y gyrwr amnaid gan Santa Clôs, a throdd ben y carw, a gyrrodd gyda chyflymder digyffelyb drwy y porth, ac wedi iddo amgylchynu rhan helaeth o’r mur, cyfeiriodd y cerbyd at gartref Bob, a chan mor gyflym yr elai, y mae’n ei gyrraedd ymhen ychydig iawn o amser. Fel ar y dechreu, safodd y cerbyd o flaen ffenestr y llofft, ac yn bur ddiymdroi aeth Bob allan ohono, ac i mewn i’r ystafell ac yn syth i’w wely, a chysgodd yn dawel hyd y bore. Pan ddeffrodd yr oedd ei anturiaeth yn ystod y nos yn fyw iawn yn ei gof, ond rhywsut nid oedd yn gallu sylweddoli nemawr ddim arni, ond ei fod wedi addaw rhoi y swllt oedd yn ei “Gadw-mi-gei” i’w fam i’w anfon i Santa Clôs, ac heb oedi munud wedi codi, y mae’n cyflawni ei addewid, gan sicrhau ei fam os byddai iddi wneud fel yr oedd ef wedi addaw, y cawsai Benni Pen y Stryd anrheg yn ei hosan fore’r Nadolig. Nid oedd raid iddo ond prin ofyn i’w fam nad oedd yn barod i wneud ei gais, ond cafodd gryn waith i berswadio Benni addaw hongian ei hosan, a diameu na fuasai wedi llwyddo onibai i fam Benni hefyd bwyso arno i wneud yr hyn geisiai Bob. “Gwna am y tro yma,” meddai, “i blesio Bob.”

“O’r goreu,” ebai Benni, “mi wna i am y tro yma.”

Ni fu Bob erioed mor awyddus am weled bore Nadolig a’r tro hwn. Ac er mor falch ydoedd o’i hosan lawn ei hunan, gynted ag y cafodd ei frecwast, y mae’n rhedeg i gartref Benni, a’i bryder yn fawr. Yr oedd rhywbeth yn mynnu sibrwd yn ei feddwl. “Beth pe bai Benni wedi ei siomi?” Ond fel yr elai i fyny y llwybr at y tŷ, taenai gwên hapus dros ei wyneb wrth glywed Benni yn chwerthin, ac hefyd wrth glywed rhyw sŵn arall a adwaenai yn dda yn llenwi’r ystafell. Aeth i mewn ar ei union drwy y drws agored i’r gegin, a dyna lle ’roedd Benni yn eistedd ar y mat o flaen y tân, a motor car yn mynd fel y gwynt o gwmpas y llawr, a’i fam yn mwynhau edrych arno bron gymaint ag yntau.

“Sbia,” ebai, pan welodd Bob, “dyma i ti fotor da ges i gen Santa Clôs, y mae’n dda gen i ’rwan mod i wedi hongian fy hosan, a mi ges afal ac oren a hances poced.”

“Reit dda, wir,” ebai Bob, ac wedi edmygu y motor i’r eithaf, y mae’n gwahodd Benni i weled yr hyn a gafodd yntau yn ei hosan, ac yna yn prysuro gartref, gan deimlo ei lawenydd wedi dyblu gan y ffaith fod Santa Clôs wedi cofio Benni hefyd, a bod ganddo yntau rhyw ran mewn rhoddi achos i Benni i lawenhau.

GEIRFA

AFLAFAR, harsh, unmelodious.

AMDDIFADU, to deprive.

AMHERSAIN, uneuphonious.

AMOD, condition.

AMRANTIAD, second.

ANAFU, to hurt.

ASWY, left.

ATAL, to keep back.

 

BAICH, load, burden.

BASGED, basket.

BÔN, trunk.

BRATHOG, snappy.

BRECWAST, breakfast.

BRIGYN, sprig.

BRWYN, rushes.

BWRLYMU, to bubble, to gurgle.

 

CADWEN, chain, necklace.

CAMARWAIN, to mislead.

CAMFA, stile.

CAREIAU, shreads.

CARW, deer, stag.

CARUAIDD, loving.

CLUSTFEINIO, to eavesdrop, to listen closely.

COEDWIG, forest.

CORS, bog.

CRECHWEN, loud laughter.

CROESDYNNU, to contend, to wrangle.

CYFLEUSTRA, opportunity.

CYFRINACH, secret.

CYFRWYS, cunning, crafty.

CYMELI, to persuade.

CYMERADWYAETH, approval.

CYMWYNAS, kindness, favour.

CYRCHFAN, resort.

CYWREINRWYDD, skill, curiosity.

 

CHWALU, to scatter.

CHWIBANOGL, flute.

 

DAIL POETHION, nettles.

DAWNSFA, dance.

DERWEN, oak tree.

DIDARO, unaffected, unconcerned.

DWRN, fist, knob.

DYFALBARHAD, perseverance.

DYRNAID, fistful.

DYRYSU, to entangle.

 

EDMYGEDD, admiration.

ENFYS, rainbow.

ERS MEITYN, for a long time.

 

FFAFR, favour.

FFAU, den, cave.

 

GERFYDD, by means of.

GLODDEST, [missing text]

GLYNU, to stick.

GORUCHWYLION, duties.

GORYMDAITH, procession.

GOSTEG, carousal, revelling.

GOSTWNG, to lower.

GRAWN, berries.

GRESYNU, to pity.

GWAROGAETH, homage.

GWELLT, grass.

GWIAIL, rods, twigs.

GWINLLAN, vineyard.

GWIWER, squirrel.

GWLITH, dew.

GWNINGEN, rabbit.

GWOBRWYO, to reward.

GWRYCH, hedge.

 

HAENEN, layer.

HELYG, willows.

HUNANFODDHAD, self satisfaction.

 

IAS, jot.

IRO, to annoint.

 

LLACIO, to loosen.

LLANAST, confusion, disorder.

LLATHEN, a yard.

LLECYN, spot.

LLETHOL, oppressive, overwhelming.

LLINIARU, to soothe.

LLWYFAN, platform.

LLYS, court.

 

MAEN LLIFO, whetstone.

MANTELL, cloak.

MEDDIANNU, to possess.

MERWINO, to itch, to smart.

MES, acorns.

METEL, metal.

MINTAI, company, host.

MIRI, merriment, fun.

MOESYMGRYMU, to bow.

MWSOGL, moss.

MYNWES, breast, bosom.

 

NOSWYLIO, to leave work at eve.

 

ONNEN, ash tree.

 

PARODRWYDD, readiness.

PENBLETH, perplexity.

PERAIDD, sweet, mellow.

PERAROGL, scent.

PERLLAN, orchard.

PETRUSO, to hesitate.

POPTY, oven.

PLWM, lead.

PLYG, fold.

 

RHAFF, rope.

 

SETL, settle.

SIBRWD, to whisper, to murmur.

SIGLO, to swing.

SINGLAN, swing.

 

TACLUS, orderly.

TALCEN, forehead, the far end.

TALOG, jaunty.

TANBAID, fiery, brilliant.

TINCIAN, clanging.

TRECHU, to conquer.

TREIDDGAR, piercing.

TROSEDD, transgression, offence.

TWMPATH, clump.

TUSW, bunch.

TYCIO, to avail.

TYLWYTH, tribe.

 

YMDDIRIED, to trust.

YMWELIAD, visit.

YSGOGIAD, movement.

YSPEILIO, to rob, plunder.

YSWATIO, to hide.

 

 

[The end of Dros Y Gamfa, Stori I Blant by Fanny Winifred Edwards]